Eseia 35:5-10
Eseia 35:5-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor, a chlustiau pobl fyddar hefyd. Bydd y cloff yn neidio fel hydd, a’r mud yn gweiddi’n llawen! Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch, ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch. Bydd y tywod poeth yn troi’n bwll dŵr, a’r tir sych yn ffynhonnau’n ffrydio. Bydd y fan lle roedd siacaliaid yn gorweddian yn troi’n gorsydd o frwyn. Bydd priffordd, ie, ffordd yno sy’n cael ei galw, ‘Y Ffordd Sanctaidd’. Fydd neb sy’n aflan yn cael teithio arni – mae ar gyfer y rhai sy’n cerdded y Ffordd. Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd. Fydd dim llew yno, a fydd anifail gwyllt ddim yn dod yn agos ati – fydd dim i’w gael yno. Ond bydd y rhai sydd wedi’u rhyddhau yn cerdded ar ei hyd. Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy’n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw’n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
Eseia 35:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna fe agorir llygaid y deillion a chlustiau'r byddariaid; fe lama'r cloff fel hydd, fe gân tafod y mudan; tyr dyfroedd allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch; bydd y crastir yn llyn, a'r tir sych yn ffynhonnau byw; yn y tir garw, lle cyrcha'r siacal, bydd gweirglodd o gorsennau a brwyn. Yno bydd priffordd a ffordd, a gelwir hi yn ffordd sanctaidd; ni bydd yr halogedig yn mynd ar hyd-ddi; bydd yn ffordd i'r pererin, ac nid i'r cyfeiliorn, i grwydro ar hyd-ddi. Ni ddaw llew yno, ni ddring bwystfil rheibus iddi— ni cheir y rheini yno. Ond y rhai a ryddhawyd fydd yn rhodio arni, a gwaredigion yr ARGLWYDD fydd yn dychwelyd. Dônt i Seion dan ganu, bob un gyda llawenydd tragwyddol; hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.
Eseia 35:5-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir. Yna y llama y cloff fel hydd, ac y cân tafod y mudan: canys dyfroedd a dyr allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. Y crastir hefyd fydd yn llyn, a’r tir sychedig yn ffynhonnau dyfroedd; yn nhrigfa y dreigiau, a’u gorweddfa, y bydd cyfle corsennau a brwyn. Yna y bydd priffordd, a ffordd; a Ffordd sanctaidd y gelwir hi: yr halogedig nid â ar hyd-ddi; canys hi a fydd i’r rhai hynny: a rodio y ffordd, pe byddent ynfydion, ni chyfeiliornant. Ni bydd yno lew, a bwystfil gormesol ni ddring iddi, ac nis ceir yno; eithr y rhai gwaredol a rodiant yno. A gwaredigion yr ARGLWYDD a ddychwelant, ac a ddeuant i Seion â chaniadau, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pen: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar a ffy ymaith.