Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 35

35
Llawenydd wrth Ddychwelyd
1Llawenyched yr anial a'r sychdir,
gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo.
2Blodeued fel maes o saffrwn,
a gorfoleddu â llawenydd a chân.
Rhodder gogoniant Lebanon iddo,
mawrhydi Carmel a Saron;
cânt weld gogoniant yr ARGLWYDD,
a mawrhydi ein Duw ni.
3Cadarnhewch y dwylo llesg,
cryfhewch y gliniau gwan;
4dywedwch wrth y pryderus, “Ymgryfhewch, nac ofnwch.
Wele, fe ddisgyn ar Edom,
ar y bobl a ddedfryda#35:4 Neu, â thâl Duw. i farn.
5Yna fe agorir llygaid y deillion
a chlustiau'r byddariaid;
6fe lama'r cloff fel hydd,
fe gân tafod y mudan;
tyr dyfroedd allan yn yr anialwch,
ac afonydd yn y diffeithwch;
7bydd y crastir yn llyn,
a'r tir sych yn ffynhonnau byw;
yn y tir garw, lle cyrcha'r siacal,
bydd gweirglodd o gorsennau a brwyn.
8Yno bydd priffordd a ffordd,
a gelwir hi yn ffordd sanctaidd;
ni bydd yr halogedig yn mynd ar hyd-ddi;
bydd yn ffordd i'r pererin,
ac nid i'r cyfeiliorn, i grwydro ar hyd-ddi.
9Ni ddaw llew yno,
ni ddring bwystfil rheibus iddi—
ni cheir y rheini yno.
Ond y rhai a ryddhawyd fydd yn rhodio arni,
10a gwaredigion yr ARGLWYDD fydd yn dychwelyd.
Dônt i Seion dan ganu,
bob un gyda llawenydd tragwyddol;
hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd,
a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.

Dewis Presennol:

Eseia 35: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd