Eseia 35:5-10
Eseia 35:5-10 BCND
Yna fe agorir llygaid y deillion a chlustiau'r byddariaid; fe lama'r cloff fel hydd, fe gân tafod y mudan; tyr dyfroedd allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch; bydd y crastir yn llyn, a'r tir sych yn ffynhonnau byw; yn y tir garw, lle cyrcha'r siacal, bydd gweirglodd o gorsennau a brwyn. Yno bydd priffordd a ffordd, a gelwir hi yn ffordd sanctaidd; ni bydd yr halogedig yn mynd ar hyd-ddi; bydd yn ffordd i'r pererin, ac nid i'r cyfeiliorn, i grwydro ar hyd-ddi. Ni ddaw llew yno, ni ddring bwystfil rheibus iddi— ni cheir y rheini yno. Ond y rhai a ryddhawyd fydd yn rhodio arni, a gwaredigion yr ARGLWYDD fydd yn dychwelyd. Dônt i Seion dan ganu, bob un gyda llawenydd tragwyddol; hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.


