Salm 95
95
1Deuwch / canwn · i’r / Arglwydd :
ymlawen/hawn yn / nerth ein / hiechyd.
2Deuwn ger ei / fron ef · â / diolch :
canwn yn / llafar / iddo · â / salmau.
3Canys yr Arglwydd sydd / Dduw / mawr :
a Brenin mawr go/ruwch yr / holl / dduwiau.
4Yr hwn y mae gorddyfnderau y / ddaear · yn ei / law :
ac uchel/derau · y my/nyddoedd · yn / eiddo.
5Y môr sydd eiddo ac ef/e a’i / gwnaeth :
a’i / ddwylo · a lun/iasant · y / sychdir.
6Deuwch addolwn / ac ym/grymwn :
gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr / Arglwydd / ein Gwneu-/thurwr.
† 7Canys efe yw ein / Duw / ni :
a ninnau ŷm bobl ei / borfa · a / defaid ei / law.
8Heddiw os gwrandewch ar ei leferydd * na cha/ledwch · eich ca/lonnau :
megis yn yr ymrysonfa * fel yn nydd profe/digaeth / yn yr · an/ialwch :
9Pan demtiodd eich / tadau / fi :
y profasant fi ac y / gwelsant / fy ngweith/redoedd.
10Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r gen/hedlaeth / hon :
a dywedais * Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy * ac / nid · adna/buant · fy / ffyrdd :
11Wrth y rhai y / tyngais · yn fy / llid :
na / ddelent / i’m gor/ffwysfa.
Dewis Presennol:
Salm 95: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984