Salm 96
96
1Cenwch i’r Arglwydd / ganiad / newydd :
cenwch i’r / Arglwydd · yr / holl / ddaear.
2Cenwch i’r Arglwydd, ben/digwch · ei / enw :
cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei / iachaw/dwriaeth / ef.
3Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei o/goniant / ef :
ymhlith yr holl / bobloedd · ei / ryfe/ddodau.
4Canys mawr yw yr Arglwydd a chanmo/ladwy / iawn :
ofnadwy yw efe go/ruwch yr / holl / dduwiau.
5Canys holl dduwiau y bobloedd / ydynt · ei/lunod :
ond yr / Arglwydd · a / wnaeth y / nefoedd.
6Gogoniant a harddwch / sydd o’i / flaen ef :
nerth a hyf/rydwch · sydd / yn ei / gysegr.
7Tylwythau y bobl / rhoddwch · i’r / Arglwydd :
rhoddwch i’r / Arglwydd · o/goniant · a / nerth.
8Rhoddwch i’r Arglwydd o/goniant · ei / enw :
dygwch offrwm a / deuwch / i’w gyn/teddoedd.
9Addolwch yr Arglwydd mewn pryd/ferthwch · sanc-/teiddrwydd :
yr holl ddaear / ofnwch / ger ei / fron ef.
10Dywedwch ymysg y cenhedloedd * Yr Arglwydd / sydd yn · teyr/nasu :
a’r byd a sicrhaodd efe fel nad ysgogo * efe a / farna · y / bobl · yn / uniawn.
11Llawenhaed y nefoedd a gorfo/ledded · y / ddaear :
rhued y / môr / a’i gyf/lawnder.
12Gorfoledded y maes a’r hyn / oll y · sydd / ynddo :
yna holl brennau y coed a / ganant · o / flaen yr / Arglwydd.
† 13Canys y mae yn dyfod * canys y mae yn dyfod i / farnu · y / ddaear :
efe a farna y byd trwy gyfiawnder a’r / bobloedd / â’i wir-/onedd.
Dewis Presennol:
Salm 96: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984