Salm 94
94
1O Arglwydd / Dduw y / dial :
O Dduw y / dial / ymddis/gleiria.
2Ymddyrcha / Farnwr · y / byd :
tâl eu / gwobr / i’r / beilchion.
3Pa hyd, Arglwydd y caiff yr / annuw/iolion :
pa hyd y caiff yr an/nuwiol / orfo/leddu?
4Pa hyd y siaradant ac y dy/wedant · yn / galed? :
yr ymfawryga / holl weith/redwyr · an/wiredd?
5Dy bobl / Arglwydd · a / ddrylliant :
a’th eti/feddiaeth / a gys/tuddiant.
6Y weddw a’r / dieithr · a / laddant : a’r am/ddifad · a / ddie/neidiant.
† 7Dywedant hefyd, Ni / wêl yr / Arglwydd :
ac nid ys/tyria · Duw / Jacob / hyn.
8Ystyriwch, chwi rai annoeth y/mysg y / bobl :
ac ynfydion, pa / bryd / y de/ellwch?
9Oni chlyw yr hwn a / blannodd · y / glust? :
oni wêl yr / hwn a / luniodd · y / llygad?
10Oni cherydda yr hwn a / gosba · y cen/hedloedd? :
oni ŵyr yr hwn sydd yn / dysgu · gwy/bodaeth · i / ddyn?
11Gŵyr yr Arglwydd fe/ddyliau / dyn :
mai / gwa/gedd / ydynt.
12Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi / di O / Arglwydd :
ac a / ddysgi / yn dy / gyfraith;
13I beri iddo lonydd oddi wrth / ddyddiau / drygfyd :
hyd oni / chloddier / ffos · i’r an/nuwiol.
14Canys ni ad yr / Arglwydd · ei / bobl :
ac ni wrthyd e/fe ei / eti/feddiaeth.
15Eithr barn a / ddychwel · at gyf/iawnder :
a’r holl rai uniawn o / galon · a / ânt · ar ei / ôl.
16Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y / rhai dryg/ionus? :
pwy a saif gyda mi yn / erbyn · gweith/redwyr · an/wiredd?
17Oni buasai yr Arglwydd yn / gymorth / i mi :
braidd na thrigasai fy / enaid / mewn dis/tawrwydd.
18Pan ddywedais / Llithrodd · fy / nhroed :
dy drugaredd di O / Arglwydd / a’m cyn/haliodd.
19Yn amlder fy me/ddyliau · o’m / mewn :
dy ddiddanwch di a / lawe/nycha · fy / enaid.
20A fydd cydymdeithas i ti â gor/seddfainc · an/wiredd :
yr hon a lunia an/wiredd · yn / lle / cyfraith?
21Yn finteioedd y deuant yn erbyn / enaid · y / cyfiawn :
a gwaed / gwirion · a / farnant · yn / euog.
22Eithr yr Arglwydd sydd yn amddi/ffynfa · i / mi :
a’m / Duw yw / craig fy / nodded.
23Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd * ac a’u tyr ymaith / yn eu · dryg/ioni :
yr Arglwydd ein / Duw a’u / tyr hwynt / ymaith.
Dewis Presennol:
Salm 94: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984