Bible App logo
Eicon Chwilio

Salm 77

77
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff.
1Â’m llef y / gwaeddais · ar / Dduw :
â’m llef ar / Dduw · ac e/fe · a’m gwran/dawodd.
2Yn nydd fy nhrallod y / ceisiais · yr / Arglwydd :
fy archoll a redodd liw nos ac ni pheidiodd · fy enaid a wr/thododd / ei ddi/ddanu.
3Cofiais Dduw ac / a’m cyth/ryblwyd :
cwynais / a ther/fysgwyd · fy / ysbryd.
4Deliaist fy / llygaid · yn / neffro :
synnodd arnaf / fel na / allaf · le/faru.
5Ystyriais y / dyddiau / gynt :
bly/nyddoedd · yr / hen / oesoedd.
6Cofio yr ydwyf fy nghân y nos * yr ydwyf yn ym/ddiddan · â’m / calon :
fy ysbryd / sydd yn / chwilio · yn / ddyfal.
7Ai yn dragywydd y bwrw yr / Arglwydd / heibio? :
ac oni / bydd e · fe / bodlon / mwy?
8A ddarfu ei dru/garedd ef · dros / byth? :
a balla ei a/ddewid ef · yn / oes / oesoedd?
9A anghofiodd Duw / drugar/hau? :
a gaeodd efe ei / druga/reddau · mewn / soriant?
10A dywedais / Dyma · fy / ngwendid :
eto cofiaf flynyddoedd de/heulaw / y Go/ruchaf.
11Cofiaf weith/redoedd · yr / Arglwydd :
ie / cofiaf · dy / wyrthiau / gynt.
12Myfyriaf hefyd ar dy / holl / waith :
ac am dy weith/redoedd / y chwed/leuaf.
13Dy ffordd O Dduw sydd / yn y / cysegr :
pa dduw mor / fawr â’n / Duw / ni?
14Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur / rhyfe/ddodau :
dangosaist dy / nerth y/mysg y / bobloedd.
15Gwaredaist â’th / fraich dy / bobl :
meibion / Jacob / a / Joseff.
16Y dyfroedd a’th welsant O Dduw * y / dyfroedd · a’th / welsant :
hwy a ofnasant * y dyfnderau / hefyd / a gyn/hyrfwyd.
17Y cymylau a dywalltasant ddwfr * yr wybrennau a ro/ddasant / dwrf :
dy saethau / hefyd / a ger/ddasant.
18Twrf dy daran a / glywyd · o / amgylch :
mellt a oleuasant y byd * cyff/rôdd a / chrynodd · y / ddaear.
19Dy ffordd sydd yn y môr * a’th lwybrau yn y / dyfroedd / mawrion :
ac / nid ad/waenir · dy / ôl.
20Tywysaist dy / bobl fel / defaid :
trwy / law / Moses · ac / Aaron.

Dewis Presennol:

Salm 77: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda