Salm 78
78
Maschil i Asaff.
1Gwrando fy / nghyfraith · fy / mhobl :
gostyngwch eich / clust at / eiriau · fy / ngenau.
2Agoraf fy ngenau / mewn · di/hareb :
traethaf ddam/hegion / o’r / cynfyd :
3Y rhai a glywsom / ac a · wy/buom :
ac a fy/negodd · ein / tadau · i / ni.
4Ni chelwn rhag eu meibion * gan fynegi i’r oes a ddêl / foliant · yr / Arglwydd :
a’i nerth a’i ryfeddodau y / rhai a / wnaeth e/fe.
5Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob * ac a osododd / gyfraith · yn / Israel :
y rhai a orchmynnodd efe i’n / tadau · eu / dysgu · i’w / plant :
6Fel y gwybyddai yr oes a ddêl * sef y / plant a / enid :
a phan gyfodent y mynegent / hwy i’w / plant / hwythau :
7Fel y gosodent eu / gobaith · ar / Dduw :
heb anghofio gweithredoedd Duw * eithr / cadw · ei orch-/mynion / ef :
8Ac na byddent fel eu tadau * yn genhedlaeth gyndyn a / gwrthry/felgar :
yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn * ac nid yw ei hysbryd / ffyddlon / gyda / Duw.
9Meibion Effraim yn arfog ac yn / saethu · â / bwa :
a droesant eu / cefnau · yn / nydd y / frwydr.
10Ni chadwasant gy/famod / Duw :
eithr gwrthodasant / rodio · yn ei / gyfraith / ef;
11Ac anghofiasant / ei weith/redoedd :
a’i ryfeddodau y rhai a ddango/sasai · e/fe / iddynt.
12Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu / tadau / hwynt :
yn nhir yr / Aifft ym / maes / Soan.
13Efe a barthodd y môr ac a / aeth â · hwynt / drwodd :
gwnaeth hefyd i’r / dwfr / sefyll · fel / pentwr.
14Y dydd hefyd y tywysodd efe / hwynt â / chwmwl :
ac ar hyd y / nos · â go/leuni / tân.
15Efe a holltodd y creigiau / yn yr · an/ialwch :
a rhoddes ddiod oddi yno / megis · o ddyfn/derau / dirfawr.
16Canys efe a ddug ffrydiau / allan · o’r / graig :
ac a dynnodd i lawr / megis · a/fonydd · o / ddyfroedd.
17Er hynny chwanegasant eto / bechu · yn ei / erbyn ef :
gan ddigio y Go/ruchaf / yn y · di/ffeithwch.
18A themtiasant / Dduw · yn eu / calon :
gan ofyn / bwyd / wrth eu / blys.
19Llefarasant hefyd yn / erbyn / Duw :
dywedasant * A ddichon Duw ar/lwyo / bwrdd · yn yr an-/ialwch?
20Wele efe a drawodd y graig * fel y pistyllodd dwfr ac y / llifodd · a/fonydd :
a ddichon efe roddi bara hefyd * a ddarpara e/fe / gig i’w / bobl?
21Am hynny y clybu yr Arglwydd / ac y / digiodd :
a thân a enynnodd yn erbyn Jacob * a digofaint hefyd a gy/neuodd · yn / erbyn / Israel;
22Am na / chredent · yn / Nuw :
ac na obeithient yn ei / iachaw/dwriaeth / ef :
23Er iddo ef orchymyn i’r wyb/rennau · oddi / uchod :
ac a/goryd / drysau · y / nefoedd,
24A glawio manna / arnynt · i’w / fwyta :
a rhoddi / iddynt / ŷd y / nefoedd.
25Dyn a fwytaodd / fara · a/ngylion :
anfonodd / iddynt / fwyd · yn ddi/gonol.
26Gyrrodd y dwyreinwynt / yn y / nefoedd :
ac yn ei nerth y / dug e/fe dde/heuwynt.
27Glawiodd hefyd gig / arnynt · fel / llwch :
ac adar as/gellog · fel / tywod · y / môr.
28Ac a wnaeth iddynt gwympo o / fewn eu / gwersyll :
o / amgylch · eu / preswyl/feydd.
29Felly y bwytasant ac y llwyr ddi/wallwyd / hwynt :
ac efe a / barodd · eu dy/muniad / iddynt;
30Ni omeddwyd hwynt o’r / hyn a · flys/iasant :
er hynny tra yr / ydoedd · eu / bwyd · yn eu / safnau,
31Dicllonedd Duw a gyneuodd yn eu / herbyn / hwynt : ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt * ac a gwympodd / etho · le/digion / Israel.
32Er hyn oll pe/chasant / eto :
ac ni chredasant i’w / ryfe/ddodau / ef.
33Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt / mewn o/feredd :
a’u bly/nyddoedd / mewn / dychryn.
34Pan laddai efe hwynt * hwy a’i / ceisient / ef :
ac a ddychwelent ac a / geisient / Dduw yn / fore.
35Cofient hefyd mai / Duw · oedd eu / Craig :
ac mai y Goruchaf Dduw / oedd / eu Gwa/redydd.
36Er hynny rhagrithio yr oeddynt iddo / ef â’u / genau :
a dywedyd / celwydd / wrtho · â’u / tafod :
37A’u calon heb fod yn uniawn / gydag / ef :
na’u bod yn / ffyddlon / yn ei · gy/famod ef.
38Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd * ac ni ddi/fethodd / hwynt :
ie trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych * ac ni chyff/rôdd ei / holl / lid.
39Canys efe a gofiai mai / cnawd / oeddynt :
a gwynt yn / myned · ac / heb ddych/welyd.
40Pa sawl gwaith y digiasant ef / yn yr · an/ialwch :
ac y gofid/iasant · ef / yn y · di/ffeithwch?
41Ie troesant a phro/fasant / Dduw :
ac a osodasant / derfyn · i / Sanct yr / Israel.
42Ni chof/iasant · ei / law ef :
na’r dydd y gwaredodd efe / hwynt · oddi / wrth y / gelyn.
43Fel y gosodasai efe ei a/rwyddion · yn yr / Aifft :
a’i ryfe/ddodau · ym / maes / Soan.
44Ac y troesai eu ha/fonydd · yn / waed :
a’u ffrydiau / fel na / allent / yfed.
45Anfonodd gymysgbla yn eu plith * yr hon a’u di/faodd / hwynt :
a / llyffaint / i’w di/fetha.
46Ac efe a roddodd eu / cnwd hwynt · i’r / lindys :
a’u / llafur / i’r / locust.
47Distrywiodd ei / gwinwydd · â chenllysg :
a’u / syca/morwydd · â / rhew.
48Rhoddodd hefyd eu hani/feiliaid · i’r / cenllysg :
a’u / golud / i’r / mellt.
49Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid * llidiowgrwydd a / dicter · a chy/fyngder :
trwy / anfon · a/ngylion / drwg.
50Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint * nid ataliodd eu henaid / oddi · wrth / angau :
ond eu bywyd a / roddodd · e/fe i’r / haint.
51Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig / yn yr / Aifft :
sef blaenion eu / nerth hwynt · ym / mhebyll / Ham :
52Ond efe a yrrodd ei bobl ei / hun fel / defaid :
ac a’u harweiniodd hwynt fel / praidd / yn yr · an/ialwch.
53Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel fel / nad of/nasant :
a’r môr a or/chuddiodd · eu ge/lynion / hwynt.
54Hwythau a ddug efe i / oror · ei sanc/teiddrwydd :
i’r mynydd hwn a e/nillodd · ei dde/heulaw / ef.
55Ac efe a yrrodd allan y cen/hedloedd · o’u / blaen hwynt :
ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn * ac a wnaeth i
lwythau Israel / drigo · yn eu / pebyll / hwynt.
56Er hynny temtiasant a digiasant / Dduw Go/ruchaf :
ac ni chad/wasant · ei / dystio/laethau.
57Eithr ciliasant a buant anffyddlon / fel eu / tadau :
troesant / fel / bwa · twy/llodrus.
58Digiasant ef hefyd â’u / huchel/fannau :
a gyrasant eiddigedd arno / â’u cerf/iedig / ddelwau.
59Clybu Duw hyn / ac a / ddigiodd :
ac a ffi/eiddiodd / Israel · yn / ddirfawr :
60Fel y gadawodd efe / daber · nacl / Seilo :
y babell a osodasai e/fe y/mysg / dynion;
61Ac y rhoddodd ei / nerth · mewn cae/thiwed :
a’i bryd/ferthwch · yn / llaw y / gelyn.
62Rhoddes hefyd ei / bobl · i’r / cleddyf :
a digiodd / wrth ei / eti/feddiaeth.
63Tân a ysodd eu / gwŷr / ieuainc :
a’u mo/rynion / ni phri/odwyd.
64Eu hoffeiriaid a / laddwyd · â’r / cleddyf :
a’u gwragedd / gweddwon / nid wy/lasant.
65Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel / un o / gysgu :
fel cadarn yn / bloeddio / gwedi / gwin.
66Ac efe a drawodd ei e/lynion · o’r tu / ôl :
rhoddes / iddynt / warth tra/gwyddol.
67Gwrthododd hefyd / babell / Joseff :
ac ni e/tholodd / lwyth / Effraim :
68Ond efe a etholodd / lwyth / Jwda :
mynydd / Seion · yr / hwn a / hoffodd.
69Ac a adeiladodd ei gysegr fel / llys / uchel :
fel y ddaear yr hon a / seiliodd · e/fe yn · dra/gywydd.
70Etholodd hefyd / Dafydd · ei / was :
ac a’i cymerth / o gor/lannau · y / defaid :
71Oddi ar ôl y defaid cyfebron y / daeth ag / ef :
i borthi Jacob ei bobl ac / Israel · ei / eti/feddiaeth.
72Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl per/ffeithrwydd · ei / galon :
ac a’u trinodd wrth / gyfa/rwyddyd · ei / ddwylo.
Dewis Presennol:
Salm 78: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984