Salm 76
76
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff.
1Hynod yw / Duw yn / Jwda :
mawr yw ei / enw / ef yn / Israel.
2Ei babell hefyd / sydd yn / Salem :
a’i / drigfa / yn / Seion.
3Yna y torrodd efe / saethau · y / bwa :
y darian y / cleddyf / hefyd · a’r / frwydr.
4Gogoneddusach wyt / a cha/darnach :
na my/nyddoedd / yr / ysbail.
5Ysbeiliwyd y cedyrn galon * hu/nasant · eu / hun :
a’r holl wŷr o / nerth ni / chawsant · eu / dwylo.
6Gan dy gerydd di O / Dduw / Jacob :
y rhoed y / cerbyd · a’r / march i / gysgu.
7Tydi, ty/di · wyt of/nadwy :
a phwy a saif o’th flaen / pan e/nynno · dy / ddicter?
8O’r nefoedd y peraist / glywed / barn :
ofnodd / a gos/tegodd · y / ddaear,
9Pan gyfododd / Duw i / farn :
i achub / holl rai / llednais · y / tir.
10Diau cynddaredd dyn a’th fol/ianna / di :
gweddill cyn/ddaredd / a wa/herddi.
11Addunedwch, a thelwch i’r / Arglwydd · eich / Duw :
y rhai oll ydynt o’i amgylch ef * dygant / anrheg / i’r of/nadwy.
12Efe a dyr ymaith / ysbryd · tywy/sogion :
y mae yn of/nadwy · i fren/hinoedd · y / ddaear.
Dewis Presennol:
Salm 76: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984