Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 59

59
I’r Pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd, pan yrrodd Saul rai i gadw y tŷ i’w ladd ef.
1Fy Nuw gwared fi oddi / wrth · fy nge/lynion :
amddiffyn fi oddi wrth y rhai a / ymgy/fodant · i’m / herbyn.
2Gwared fi oddi wrth weith/redwyr · an/wiredd :
ac achub fi / rhag y / gwŷr / gwaedlyd.
3Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid * ymgasglodd / cedyrn · i’m / herbyn :
nid ar fy / mai na’m / pechod i · O / Arglwydd.
4Rhedant, ymbaratoant heb anwiredd / ynof / fi :
deffro / dithau · i’m / cymorth · ac / edrych.
5A thi Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel * deffro i ymweled â’r / holl gen/hedloedd :
na thrugarha wrth neb a / wnânt an/wiredd · yn fa/leisus.
6Dychwelant / gyda’r / hwyr :
cyfarthant fel / cŵn · ac am/gylchant · y / ddinas.
7Wele, bytheiriant â’u genau * cleddyfau sydd / yn eu · gwe-/fusau :
canys / pwy / meddant · a / glyw?
8Ond tydi O Arglwydd a’u gwat/weri / hwynt :
ac a chwerddi am / ben yr / holl gen/hedloedd.
9Oherwydd ei nerth ef y disgwyliaf / wrthyt / ti :
canys / Duw · yw fy / amddi/ffynfa.
10Fy Nuw trugarog / a’m rhag/flaena :
Duw a wna i mi weled fy e/wyllys / ar fy · nge/lynion.
11Na ladd hwynt rhag i’m / pobl ang/hofio :
gwasgar hwynt yn dy nerth a darostwng hwynt * O / Arglwydd / ein / tarian.
12Am bechod eu genau ac ymadrodd eu gwefusau * dalier / hwynt · yn eu / balchder :
ac am y / felltith · a’r / celwydd · a / draethant.
13Difa hwynt yn dy lid * difa / fel na / byddont :
a gwybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob / hyd ei/thafoedd · y / ddaear.
14A dychwelant / gyda’r / hwyr :
a chyfarthant fel / cŵn · ac am/gylchant · y / ddinas.
15Crwydrant / am / fwyd :
ac / onis · di/gonir · grwg/nachant.
16Minnau a ganaf am dy nerth * ie llafarganaf am dy dru-/garedd · yn / fore :
canys buost yn amddiffynfa i mi ac yn noddfa * yn y dydd y / bu cy/fyngder / arnaf.
17I ti fy / nerth y / canaf :
canys Duw yw fy amddiffynfa * a / Duw / fy nhru/garedd.

Dewis Presennol:

Salm 59: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda