Salm 45
45
I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Cora, Maschil, Cân cariadau.
1Traetha fy nghalon beth da * dywedyd yr ydwyf y pethau a / wneuthum · i’r / brenin :
fy nhafod sydd / bin · ysgri/fennydd / buan.
2Tecach ydwyt na meibion dynion * tywalltwyd / gras · ar dy we/fusau :
oherwydd hynny y’th fen/dithiodd / Duw yn · dra/gywydd.
3Gwregysa dy gleddyf ar dy / glun O / Gadarn :
â’th o/goniant / a’th / harddwch.
4Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus * oherwydd gwirionedd a lledneisrwydd/ a chyf/iawnder :
a’th ddeheulaw a / ddysg · i ti / bethau / ofnadwy.
5Pobl a / syrthiant / danat :
oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng / nghalon · ge-/lynion · y / Brenin.
6Dy orsedd di O Dduw sydd / byth · ac yn dra/gywydd :
teyrnwialen uniondeb yw teyrn/wialen · dy fren/hiniaeth / di.
7Ceraist gyfiawnder a cha/seaist · ddryg/ioni :
am hynny y’th eneiniodd Duw sef dy Dduw di * ag olew lla/wenydd · yn / fwy na’th · gy/feillion.
8Arogl myrr, aloes a chasia sydd ar dy / holl / wisgoedd :
allan o’r palasau ifori â’r / rhai y’th / lawen/hasant.
† 9Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy / bende · fi/gesau :
safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn / aur / coeth o / Offir.
10Gwrando, ferch, a gwêl a / gostwng · dy / glust :
ac anghofia dy bobl dy / hun a / thŷ dy / dad.
11A’r Brenin a / chwennych · dy / degwch :
canys efe yw dy Iôr di * ymostwng / dithau / iddo / ef.
12Merch Tyrus hefyd fydd / yno · ag / anrheg :
a chyfoethogion y / bobl · a ym/biliant · â’th / wyneb.
13Merch y Brenin sydd oll yn ogo/neddus · o / fewn :
gemwaith / aur · yw ei / gwisg / hi.
14Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi / at y / Brenin :
y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl * yn gyfeillesau iddi a / ddygir / atat / ti.
15Mewn llawenydd a gorfoledd y / dygir / hwynt :
a / deuant · i / lys y / Brenin.
16Dy feibion fydd yn / lle dy / dadau :
y rhai a wnei yn dywy/sogion · yn yr / holl / dir.
17Paraf gofio dy enw ym mhob cen/hedlaeth · ac / oes :
am hynny y bobl a’th fol/iannant / byth · ac yn dra/gywydd.
Dewis Presennol:
Salm 45: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984