Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 44

44
I’r Pencerdd, i feibion Cora, Maschil.
1Duw, clywsom â’n clustiau * ein tadau a fyne/gasant · i / ni :
y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt / yn y / dyddiau / gynt.
2Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd ac a’u / plennaist / hwythau :
ti a ddrygaist y bobloedd ac / a’u cy/nyddaist / hwythau.
3Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir * nid eu braich a barodd iachaw/dwriaeth / iddynt :
eithr dy ddeheulaw di a’th fraich a llewyrch dy wyneb * oherwydd i / ti eu / hoffi / hwynt.
4Ti Dduw / yw fy / Mrenin :
gorchymyn / iachaw/dwriaeth · i / Jacob.
5Ynot ti y cilgwthiwn ni / ein ge/lynion :
yn dy enw di y sathrwn y / rhai a · gy/fodant · i’n / herbyn.
6Oherwydd nid yn fy mwa yr / ymddir/iedaf :
nid fy / nghleddyf / chwaith a’m / hachub.
7Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein / gwrthwy/nebwyr :
ac a wara/dwyddaist / ein ca/seion.
8Yn Nuw yr ymffrostiwn / trwy y / dydd;
a ni a glod/forwn · dy / enw yn · dra/gywydd.
9Ond ti a’n bwriaist ni ymaith ac a’n / gwara/dwyddaist :
ac nid wyt yn myned / allan / gyda’n / lluoedd.
10Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi / wrth y / gelyn :
a’n caseion a anrheith/iasant / iddynt / eu hun.
11Rhoddaist ni fel / defaid · i’w / bwyta :
a gwasgeraist / ni y/mysg y · cen/hedloedd.
12Gwerthaist dy / bobl · heb / elw :
ac ni chwanegaist dy / olud · o’u / gwerth / hwynt.
13Gosodaist ni yn / warthrudd · i’n cym/dogion :
yn watwargerdd ac yn / wawd · i’r rhai / ydynt · o’n / hamgylch.
14Gosodaist ni yn ddihareb / ymysg · y cen/hedloedd :
yn rhai i ysgwyd / pen arnynt · y/mysg y / bobloedd.
15Fy ngwarthrudd sydd / beunydd · ger fy / mron :
a chy/wilydd · fy / wyneb · a’m / todd :
16Gan lais y gwarth/ruddwr · a’r / cablwr :
oherwydd y / gelyn · a’r / ymddi/alwr.
17Hyn oll a ddaeth arnom * eto ni’th anghof/iasom / di :
ac ni buom an/ffyddlon / yn dy · gy/famod.
18Ni throdd ein calon / yn ei / hôl :
ac nid aeth ein cerddediad / allan · o’th / lwybr / di;
19Er i ti ein curo yn / nhrigfa / dreigiau :
a thoi / drosom · â / chysgod / angau.
20Os anghofiasom / enw · ein / Duw :
neu estyn ein / dwylo · at / dduw / dieithr :
21Oni chwilia / Duw hyn / allan? :
canys efe a / ŵyr ddir/geloedd · y / galon.
22Ie, er dy fwyn di y’n / lleddir / beunydd :
cyfrifir / ni fel / defaid · i’w / lladd.
23Deffro, paham y / cysgi · O / Arglwydd? :
cyfod * na fwrw ni / ymaith / yn dra/gywydd.
24Paham y / cuddi · dy / wyneb? :
ac yr anghofi ein / cystudd / a’n gor/thrymder?
25Canys gostyngwyd ein / henaid · i’r / llwch :
glynodd ein / bol / wrth y / ddaear.
26Cyfod yn gyn/horthwy · i / ni :
a / gwared · ni er / mwyn · dy dru/garedd.

Dewis Presennol:

Salm 44: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda