Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 38

38
Salm Dafydd, er coffa.
1Arglwydd na cherydda fi / yn dy / lid :
ac na / chosba · fi / yn dy · ddic/llonedd.
2Canys y mae dy saethau yng/lŷn /ynof :
a’th / law yn / drom / arnaf.
3Nid oes iechyd yn fy nghnawd * oherwydd / dy ddic/llonedd :
ac nid oes heddwch i’m / hesgyrn · ob/legid · fy / mhechod.
4Canys fy nghamweddau a aethant / dros fy / mhen :
megis baich trwm y / maent · yn rhy / drwm / i mi.
5Fy nghleisiau / a byd/rasant :
ac a lyg/rasant / gan fy · yn/fydrwydd.
6Crymwyd a darostyngwyd / fi yn / ddirfawr :
beunydd yr ydwyf yn / myned / yn a/larus.
7Canys fy lwynau a lanwyd / o ffi/eiddglwyf :
ac nid oes / iechyd / yn fy / nghnawd.
8Gwanhawyd a drylliwyd fi yn / dra / mawr :
rhuais gan / aflo/nyddwch · fy / nghalon.
9O’th flaen di Arglwydd y mae fy / holl ddy/muniad :
ac ni chuddiwyd fy u/chenaid / oddi / wrthyt.
10Fy nghalon sydd yn llamu * fy / nerth · a’m ga/dawodd :
a llewyrch fy llygaid / nid yw / chwaith / gennyf.
11Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar / gyfer · fy / mhla :
a’m cyfne/seifiaid · a / safent · o / hirbell.
12Y rhai hefyd a geisient fy einioes a oso/dasent / faglau :
a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau * ac a ddychmygent ddi/chellion · ar / hyd y / dydd.
13A minnau fel / byddar · ni / chlywn :
eithr oeddwn fel / mudan · heb a/goryd · ei / enau.
14Felly yr oeddwn fel / gŵr ni / chlywai :
ac heb argy/hoeddion / yn ei / enau.
15Oherwydd i mi obeithio / ynot / Arglwydd :
ti Arglwydd fy / Nuw / a wran/dewi.
16Canys dywedais * Gwrando fi rhag llawenychu o/honynt · i’m / herbyn :
pan lithrai fy nhroed / ymfaw/rygent · i’m / herbyn.
17Canys parod / wyf i / gloffi :
a’m dolur sydd / ger fy / mron yn / wastad.
18Diau y mynegaf / fy an/wiredd :
ac y pry/deraf · o/herwydd · fy / mhechod.
19Ac y mae fy ngelynion yn / fyw · ac yn / gedyrn :
amlhawyd hefyd y / rhai a’m · ca/sânt ar / gam.
20A’r rhai a dalant ddrwg dros dda a’m / gwrthwy/nebant :
am fy / mod yn / dilyn · da/ioni.
21Na / ad fi · O / Arglwydd :
fy Nuw / nac · ymbell/ha · oddi / wrthyf.
22Brysia / i’m / cymorth :
O / Arglwydd · fy / iachaw/dwriaeth.

Dewis Presennol:

Salm 38: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda