Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 37

37
Salm Dafydd.
1Nac ymddigia oherwydd y / rhai dryg/ionus :
ac na chenfigenna wrth y / rhai a / wnânt an/wiredd.
2Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r / llawr fel / glaswellt :
ac y / gwywant / fel gwyrdd/lysiau.
3Gobeithia yn yr Arglwydd a / gwna / dda :
felly y trigi yn y tir a / thi a / borthir · yn / ddiau.
4Ymddigrifa hefyd / yn yr / Arglwydd :
ac efe a ddyry i ti / ddymun/iada · dy / galon.
5Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd ac ym/ddiried / ynddo :
ac e/fe a’i / dwg i / ben.
6Efe a ddwg allan dy gyfiawnder / fel y · go/leuni :
a’th / farn fel / hanner / dydd.
7Distawa yn yr Arglwydd a / disgwyl / wrtho :
nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd * wrth y gŵr sydd yn / gwneuthur · ei / ddrwg am/canion.
8Paid â digofaint a gad / ymaith · gyn/ddaredd :
nac ymddigia er / dim i / wneuthur / drwg.
9Canys torrir ymaith y / drwg / ddynion :
ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd * hwynt-hwy a / eti/feddant · y / tir.
10Canys eto ychydigyn, ac ni welir / yr an/nuwiol :
a thi a edrychi am ei le ef ac / ni bydd / dim o/hono.
11Eithr y rhai gostyngedig a eti/feddant · y / ddaear :
ac a ymhyf/rydant · gan / liaws · tang/nefedd.
12Yr annuwiol a amcana yn / erbyn · y / cyfiawn :
ac a ysgyr/nyga · ei / ddannedd / arno.
13Yr Arglwydd a / chwardd · am ei / ben ef :
canys / gwêl · fod ei / ddydd ar / ddyfod.
14Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf * ac a ane/lasant · eu / bwa :
i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog * ac i / ladd · y rhai / uniawn · eu / ffordd.
15Eu cleddyf a â yn eu / calon · eu / hunain :
a’u bw/âu / a / ddryllir.
16Gwell yw yr ychydig sydd / gan y / cyfiawn :
na mawr olud / annuw/iolion / lawer.
17Canys breichiau yr annuw/iolion · a / dorrir :
ond yr Arglwydd a / gynnal · y / rhai / cyfiawn.
18Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y / rhai / perffaith :
a’u heti/feddiaeth · hwy / fydd yn · dra/gywydd.
19Nis gwaradwyddir hwy yn / amser / drygfyd :
ac yn amser / newyn · y / cânt / ddigon.
20Eithr collir yr annuwiolion * a gelynion yr Arglwydd fel braster / ŵyn · a ddif/lannant :
yn / fwg · y dif/lannant / hwy.
21Yr annuwiol a echwynna ac / ni thâl / adref :
ond y cyfiawn sydd dru/garog / ac yn / rhoddi.
22Canys y rhai a fendigo efe a eti/feddant · y / tir :
a’r rhai a felltithio e/fe a / dorrir / ymaith.
23Yr Arglwydd a fforddia ger/ddediad · gŵr / da :
a da fydd / ganddo · ei / ffordd / ef.
24Er iddo gwympo ni lwyr / fwrir ef · i / lawr :
canys yr Arglwydd sydd yn ei / gynnal / ef â’i / law.
25Mi a fûm ieuanc ac yr / ydwyf · yn / hen;
eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu * na’i / had yn · car/dota / bara.
26Bob amser y mae efe yn drugarog ac yn / rhoddi / benthyg :
a’i / had / a fen/dithir.
27Cilia di oddi wrth ddrwg a / gwna / dda :
a / chyfan/hedda yn · dra/gywydd.
28Canys yr Arglwydd a gâr farn ac ni / edy · ei / saint :
cedwir hwynt yn dragywydd * ond had yr an/nuwiol · a / dorrir / ymaith.
29Y rhai cyfiawn a eti/feddant · y / ddaear :
ac a bre/swyliant / ynddi yn · dra/gywydd.
30Genau y cyfiawn a fy/nega · ddoe/thineb :
a’i / dafod · a / draetha / farn.
31Deddf ei Dduw sydd yn ei / galon / ef :
a’i / gamre / ni / lithrant.
32Yr annuwiol a wylia / ar y / cyfiawn :
ac a / gais ei / ladd / ef.
33Ni ad yr Arglwydd ef / yn ei / law ef :
ac ni ad ef yn / euog / pan ei / barner.
34Gobeithia yn yr Arglwydd a chadw ei ffordd ef * ac efe a’th ddyrchafa fel yr eti/feddech · y / tir :
pan ddifether yr annuw/iolion / ti a’i / gweli.
35Gwelais yr an/nuwiol · yn / gadarn :
ac yn frigog / fel y / llawryf / gwyrdd.
36Er hynny efe a aeth ymaith * ac wele nid oedd / mwy o/hono :
a mi a’i ceisiais / ac nid / oedd i’w / gael.
37Ystyr y perffaith ac edrych / ar yr / uniawn :
canys diwedd y gŵr / hwnnw / fydd tang/nefedd.
38Ond y troseddwyr a / gyd-ddis/trywir :
diwedd yr annuw/iolion · a / dorrir / ymaith.
39A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi / wrth yr / Arglwydd :
efe yw eu / nerth yn / amser / trallod.
40A’r Arglwydd a’u cymorth hwynt / ac a’u / gwared :
efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion ac a’u ceidw hwynt * am / iddynt · ym/ddiried / ynddo.

Dewis Presennol:

Salm 37: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda