Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 146

146
1Molwch / yr / Arglwydd :
fy enaid / mola / di yr / Arglwydd.
2Molaf yr Arglwydd / yn fy / myw :
canaf i’m / Duw / tra / fyddwyf.
3Na hyderwch ar dywysogion * nac ar / fab / dyn :
yr hwn nid oes / iachaw/dwriaeth / ynddo.
4Ei anadl a â allan * efe a / ddychwel · i’w / ddaear :
y dydd hwnnw y derfydd am ei / holl am/canion / ef.
5Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn / gymorth / iddo :
sydd â’i obaith / yn yr / Arglwydd · ei / Dduw;
6Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear * y môr, a’r hyn / oll y · sydd / ynddynt :
yr hwn sydd yn cadw gwir/ionedd / yn dra/gywydd :
7Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig * yn rhoddi / bara · i’r ne/wynog :
yr Arglwydd sydd yn gollwng y / carcha/rorion · yn / rhydd.
8Yr Arglwydd sydd yn agoryd / llygaid · y / deillion :
yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd * yr Arglwydd sydd yn / hoffi · y / rhai / cyfiawn.
9Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid * efe a gynnal yr am/ddifad · a’r / weddw :
ac a ddadymchwel / ffordd y / rhai an/nuwiol.
10Yr Arglwydd a deyr/nasa / byth :
sef dy Dduw di Seion dros genhedlaeth a chenhedlaeth * / Mo/lwch yr / Arglwydd.

Dewis Presennol:

Salm 146: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda