Salm 145
145
Salm Dafydd o foliant.
1Dyrchafaf di fy / Nuw O / Frenin :
a bendithiaf dy / enw / byth · ac yn dra/gywydd.
2Beunydd / y’th fen/dithiaf :
a’th enw a / folaf / byth · ac yn dra/gywydd.
3Mawr yw yr Arglwydd a chanmo/ladwy / iawn :
a’i / fawredd · sydd / anchwil/iadwy.
4Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a / fawl ∙ dy weith/redoedd :
ac a fy/nega / dy ga/dernid.
5Ardderchowgrwydd go/goniant ∙ dy / fawredd :
a’th / bethau / rhyfedd ∙ a / draethaf.
6Traethant hwy gadernid dy weith/redoedd ∙ of/nadwy :
my/negaf / finnau ∙ dy / fawredd.
† 7Coffadwriaeth amlder dy dda/ioni ∙ a /draethant :
a’th gyf/iawnder /a ddat/ganant.
8Graslon a thru/garog ∙ yw yr / Arglwydd;
hwyrfrydig i / ddig a / mawr ∙ ei dru/garedd.
9Daionus yw yr / Arglwydd ∙ i bawb :
a’i drugaredd sydd / ar ei / holl weith/redoedd.
10Dy holl weithredoedd a’th glod/forant ∙ O / Arglwydd :
a’th saint / a’th fen/dithiant.
11Dywedant am ogoniant / dy fren/hiniaeth :
a / thraethant / dy ga/dernid :
12I beri i feibion dynion adnabod ei ga/dernid / ef :
a gogoniant ardder/chowgrwydd / ei fren/hiniaeth.
13Dy frenhiniaeth di sydd fren/hiniaeth ∙ dra/gwyddol :
a’th lywodraeth a / bery ∙ yn / oes / oesoedd.
14Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai / oll a / syrthiant :
ac sydd yn codi / pawb a / ddaros/tyngwyd.
15Llygaid pob peth a ddis/gwyliant / wrthyt :
ac yr ydwyt yn rhoddi eu / bwyd ∙ iddynt / yn ei / bryd;
16Gan ag/oryd ∙ dy / law :
a diwallu pob peth / byw ∙ â’th e/wyllys / da.
17Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei / holl / ffyrdd :
a sanctaidd / yn ei / holl weith/redoedd.
18Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a / alwant / arno :
at y rhai oll a alwant / arno / mewn gwir/ionedd.
19Efe a wna ewyllys y / rhai a’i / hofnant :
gwrendy hefyd eu llefain / ac a’u / hachub / hwynt.
20Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i / carant / ef :
ond yr holl rai an/nuwiol ∙ a ddi/fetha ∙ e/fe.
21Traetha fy ngenau / foliant ∙ yr / Arglwydd :
a bendithied pob cnawd ei enw / sanctaidd ∙ ef / byth ∙ ac yn dra/gywydd.
Dewis Presennol:
Salm 145: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984