Salm 147
147
1Molwch yr Arglwydd * canys da yw canu i’n / Duw / ni :
oherwydd hyfryd yw * ie / gweddus ∙ yw / mawl.
2Yr Arglwydd sydd yn adei/ladu · Je/rwsalem :
efe a gasgl / wasga · re/digion / Israel.
3Efe sydd yn iacháu y rhai bri/wedig ∙ o / galon :
ac yn / rhwymo / eu do/luriau.
4Y mae efe yn rhifo rhi/fedi ∙ y / sêr :
geilw hwynt / oll / wrth eu / henwau.
5Mawr yw ein Harglwydd a / mawr ei / nerth :
a/neirif / yw ei / ddeall.
6Yr Arglwydd sydd yn dyr/chafu y · rhai / llariaidd :
gan ostwng y / rhai an/nuwiol · hyd / lawr.
7Cydgenwch i’r Arglwydd mewn / diolch/garwch :
cenwch i’n / Duw / â’r / delyn.
8Yr hwn sydd yn toi y nefoedd / â chy/mylau :
yn paratoi glaw i’r ddaear * gan beri i’r gwellt / dyfu / ar y · my/nyddoedd.
9Efe sydd yn rhoddi i’r a/nifail · ei / borthiant :
ac i / gywion · y / gigfran · pan / lefant.
10Nid oes hyfrydwch ganddo yn / nerth / march :
ac nid ymhoffa e/fe · yn es/geiriau / gŵr.
11Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y / rhai a’i / hofnant ef :
sef y rhai a ddis/gwyliant / wrth ei · dru/garedd ef.
12Jerwsalem / mola · di yr / Arglwydd :
Seion mol/ianna / dy / Dduw.
13Oherwydd efe a gadarnhaodd / farrau · dy / byrth :
efe a fen/dithiodd · dy / blant o’th / fewn.
14Yr hwn sydd yn gwneuthur dy / fro · yn he/ddychol :
ac a’th ddiwalla / di â / braster / gwenith.
15Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn / ar y / ddaear :
a’i air a / red yn / dra / buan.
16Yr hwn sydd yn rhoddi / eira · fel / gwlân :
ac a / daena / rew fel / lludw.
17Yr hwn sydd yn bwrw ei / iâ · fel ta/meidiau :
pwy a erys / gan ei / oerni / ef?
18Efe a enfyn ei air ac a’u / tawdd / hwynt :
â’i wynt y chwyth e/fe a’r / dyfroedd · a / lifant.
19Y mae efe yn mynegi ei / eiriau · i / Jacob :
ei ddeddfau a’i / farne · di/gaethau · i / Israel.
20Ni wnaeth efe felly ag / un / genedl :
ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef * / Mo/lwch yr / Arglwydd.
Dewis Presennol:
Salm 147: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984