Salm 41
41
1Gwyn ei fyd y sawl sy’n yst/yried · y / tlawd :
bydd yr Arglwydd yn ei wa/redu / yn nydd / adfyd;
2Bydd yr Arglwydd yn ei warchod ac yn ei / gadw’n / fyw :
bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir · ac ni rydd mohono i / fympwy / ei e/lynion.
3Bydd yr Arglwydd yn ei gynnal ar ei / wely / cystudd :
ac yn cyweirio’i / wely / pan fo’n / glaf.
4Dywedais innau, “O Arglwydd, bydd dru/garog / wrthyf :
iachâ fi, o/herwydd / pechais · yn / d’erbyn.”
5Fe ddywed fy ngelynion yn fa/leisus · am/danaf :
“Pa bryd y bydd farw / ac y / derfydd · ei / enw?”
6Pan ddaw un i’m gweld, y mae’n siarad / yn rhag/rithiol :
ond yn ei galon yn casglu newydd drwg amdanaf · ac yn mynd / allan · i’w / daenu · ar / led.
7Y mae’r holl rai sy’n fy nghasáu yn / sisial · â’i / gilydd :
yn / meddwl · y / gwaethaf · am/danaf,
8Ac yn dweud, “Y mae rhywbeth marwol wedi / cydio / ynddo :
y mae’n orweiddiog / ac ni / chyfyd / eto.”
9aY mae hyd yn oed fy / nghyfaill / agos :
y bûm / yn ym/ddiried / ynddo,
9bAc a fu’n bwyta / wrth fy / mwrdd :
yn / codi · ei / sawdl yn / f’erbyn.
10O Arglwydd, bydd drugarog wrthyf ac / adfer / fi :
imi gael / talu’n / ôl – / iddynt.
11Wrth hyn y gwn dy / fod yn · fy / hoffi :
na fydd fy ngelyn yn / cael gor/foledd · o’m / plegid.
12Ond byddi di’n fy nghynnal / yn fy · nghy/wirdeb :
ac yn fy nghadw yn dy / brese/noldeb / byth.
13‡ Bendigedig fyddo’r / Arglwydd · Duw / Israel :
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb · A/men ac / A–/men.
Dewis Presennol:
Salm 41: SPBCND
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009