Salm 40
40
1Bûm yn disgwyl a disgwyl / wrth yr / Arglwydd :
ac yna plygodd / ataf · a / gwrando · fy / nghri.
2Cododd fi i fyny o’r pwll lleidiog · allan o’r / mwd a’r / baw :
gosododd fy nhraed ar graig · a / gwneud fy / nghamau’n · ddi/ogel.
3Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd · cân o / foliant · i’n / Duw :
bydd llawer, pan welant hyn yn ofni · ac yn ym/ddiried / yn yr / Arglwydd.
4Gwyn ei fyd y sawl sy’n rhoi ei ymddiriedaeth / yn yr / Arglwydd :
ac nad yw’n troi at y beilchion · nac at y / rhai sy’n / dilyn / twyll.
5aMor niferus, O Arglwydd, fy Nuw, yw’r rhyfe/ddodau · a / wnaethost :
a’th fw/riadau / ar ein / cyfer;
5bNid oes tebyg i ti · Dymunwn eu cy/hoeddi · a’u / hadrodd :
ond maent yn / rhy ni/ferus · i’w / rhifo.
6Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm · rhoddaist imi / glustiau · a/gored :
ac nid wyt yn gofyn poeth/offrwm · ac / aberth · dros / bechod.
7Felly dywedais, / “Dyma · fi’n / dod :
y mae wedi ei ysgrifennu mewn / rhol – / llyfr am/danaf
8Fy mod yn hoffi gwneud e/wyllys · fy / Nuw :
a bod dy / gyfraith / yn fy / nghalon.”
9Bûm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynu/lleidfa / fawr :
nid wyf wedi atal fy ngwefusau · fel y / gwyddost / O – / Arglwydd.
10aNi chuddiais dy gyfiawnder / yn fy / nghalon :
ond dywedais am dy ga/dernid · a’th / ware/digaeth;
10bNi chelais dy gariad / a’th wir/ionedd :
rhag y / gynu/lleidfa / fawr.
11Paid tithau, Arglwydd, ag atal dy dosturi / oddi / wrthyf :
bydded dy gariad a’th wirionedd / yn fy / nghadw · bob / amser.
12aOherwydd y mae drygau dirifedi wedi / cau am/danaf :
y mae fy nghamweddau wedi fy / nal · fel na / allaf / weld;
12bY maent yn fwy niferus na / gwallt fy / mhen :
ac y / mae fy / nghalon · yn / suddo.
13Bydd fodlon i’m gwa/redu / Arglwydd :
O Arglwydd / brysia · i’m / cynor/thwyo.
14aDoed cywilydd, a gwa/radwydd / hefyd :
ar y rhai sy’n / ceisio / difa · fy / mywyd;
14bBydded i’r rhai sy’n cael pleser / o wneud / drwg imi :
gael eu / troi · yn eu / holau · mewn / dryswch.
15Bydded i’r rhai sy’n gweiddi, “Aha! A/ha – !” / arnaf :
gael eu syfr/danu · gan / eu gwa/radwydd.
16aOnd bydded i bawb sy’n dy / geisio / di :
lawenhau a / gorfo/leddu / ynot;
16bBydded i’r rhai sy’n caru dy / iachaw/dwriaeth :
ddweud yn / wastad / “Mawr yw’r / Arglwydd.”
17aUn tlawd ac ang/henus wyf / fi :
ond y mae’r / Arglwydd · yn / meddwl · am/danaf.
17b‡ Ti yw fy nghymorth / a’m gwa/redydd :
fy / Nuw – / paid ag / oedi!
Dewis Presennol:
Salm 40: SPBCND
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009