Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 35

35
1Ymryson, O Arglwydd, yn erbyn y rhai sy’n ym/ryson · â / mi :
ymladd yn erbyn y rhai / sy’n ym/ladd â / mi.
2Cydia mewn / tarian · a / bwcled :
a / chyfod · i’m / cynorth/wyo.
3Tyn allan y waywffon a’r bicell yn erbyn y / rhai · sy’n fy / erlid :
dywed wrthyf, “My/fi · yw dy / ware/digaeth.”
4Doed cywilydd a gwarth ar y rhai sy’n / ceisio · fy / mywyd :
bydded i’r rhai sy’n darparu drwg i mi / droi · yn eu / holau · mewn / arswyd.
5Byddant fel / us o · flaen / gwynt :
ac angel yr / Arglwydd / ar eu / holau.
6Bydded eu ffordd yn / dywyll · a / llithrig :
ac angel yr / Arglwydd / yn eu / hymlid.
7Oherwydd heb achos y maent wedi gosod / rhwyd i / mi :
ac wedi / cloddio / pwll · ar fy / nghyfer.
8Doed distryw yn ddiarwybod arnynt · dalier hwy yn y rhwyd a os/odwyd / ganddynt :
a bydded iddynt hwy eu / hunain / syrthio · i’w / distryw.
9Ond llawenhaf / fi · yn yr / Arglwydd :
a gorfoleddu / yn ei / ware/digaeth.
10aBydd fy holl / esgyrn · yn / gweiddi :
“Pwy / Arglwydd · sydd / fel ty/di,
10b‡ Yn gwaredu’r tlawd rhag un / cryfach · nag / ef :
y tlawd a’r anghenus rhag / un sy’n / ei ys/beilio?”
11Fe gyfyd / tystion · ma/leisus :
i’m / holi · am / bethau · nas / gwn.
12Talant imi / ddrwg am / dda :
a gwneud / ymgais / am fy / mywyd.
13aA minnau, pan oeddent / hwy yn / glaf :
oeddwn yn / gwisgo / sach–/liain,
13bYn ymdda/rostwng · mewn / ympryd :
yn / plygu / pen mewn / gweddi,
14Fel pe dros gyfaill neu / frawd i/mi :
yn mynd o amgylch fel un yn galaru am ei fam · wedi fy na/rostwng / ac mewn / galar.
15aOnd pan gwympais i, yr oeddent / hwy yn / llawen :
ac yn tyrru / at ei / gilydd · i’m / herbyn,
15bPoenydwyr nad oeddwn yn / eu had/nabod :
yn / fy en/llibio · heb / arbed.
16Pan gloffais i, yr oeddent / yn fy / ngwatwar :
ac yn ys/gyrnygu · eu / dannedd / arnaf.
17O Arglwydd, am ba hyd yr / wyt am / edrych? :
Gwared fi rhag eu dinistr · a’m hunig / fywyd / rhag an/ffyddwyr.
18Yna, diolchaf i ti gerbron y gynu/lleidfa / fawr :
a’th foliannu / gerbron / tyrfa / gref.
19Na fydded i’m gelynion twyllodrus lawe/nychu · o’m / hachos :
nac i’r rhai sy’n fy nghasáu heb / achos / wincio · â’u / llygaid.
20Oherwydd nid ydynt yn / sôn am / heddwch :
ond yn erbyn rhai tawel y wlad y / maent yn / cynllwyn · di/chellion.
21Y maent yn agor eu cegau yn f’erbyn / ac yn / dweud :
“Aha, aha, yr / ydym · wedi / gweld â’n / llygaid!”
22Gwelaist / tithau / Arglwydd :
paid â thewi · fy Arglwydd, paid â phell/hau – / oddi / wrthyf.
23Ymysgwyd a deffro i wneud / barn â / mi :
i roi dedfryd ar fy / achos · fy / Nuw a’m / Harglwydd.
24Barna fi yn ôl dy gyfiawnder, O / Arglwydd · fy / Nuw :
ac na fydded iddynt / lawen/hau o’m / hachos.
25Na fydded iddynt ddweud ynddynt eu hunain · “Aha, cawsom / ein dy/muniad!” :
Na fydded iddynt ddweud · “Yr / ydym / wedi · ei / lyncu.”
26aDoed cywilydd, a gwa/radwydd / hefyd :
ar y rhai sy’n llawen/hau – / yn fy / adfyd;
26bBydded gwarth ac amarch / yn gor/chuddio :
y rhai sy’n / ymddyr/chafu · yn / f’erbyn.
27aBydded i’r rhai sy’n dymuno gweld fy / nghyfiawn/hau :
orfo/leddu · a / llawen/hau :
27bBydded iddynt / ddweud yn / wastad :
“Mawr yw yr Arglwydd sy’n dy/muno / llwyddiant · ei / was.”
28Yna, bydd fy nhafod yn cyhoeddi / dy gyf/iawnder :
a’th / foliant · ar / hyd y / dydd.

Dewis Presennol:

Salm 35: SPBCND

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda