Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 34

34
1Bendithiaf yr / Arglwydd · bob / amser :
bydd ei foliant yn / wastad / yn fy / ngenau.
2Yn yr Arglwydd yr / ymhy/frydaf :
bydded i’r gostyngedig / glywed · a / llawen/ychu.
3Mawrygwch yr Arglwydd / gyda / mi :
a dyrchafwn ei / enw / gyda’n / gilydd.
4Ceis/iais yr / Arglwydd :
ac atebodd fi a’m gwar/edu / o’m holl / ofnau.
5Y mae’r rhai sy’n edrych / arno’n / gloywi :
ac ni ddaw cy/wilydd / i’w hwy/nebau.
6Dyma un / isel · a / waeddodd :
a’r Arglwydd yn ei glywed ac yn ei wa/redu · o’i / holl · gyfyng/derau.
7Gwersylla angel yr Arglwydd o amgylch y / rhai · sy’n ei / ofni :
ac y / mae’n – / eu gwa/redu.
8Profwch, a gwelwch mai / da yw’r / Arglwydd :
gwyn ei fyd y / sawl · sy’n llo/chesu / ynddo.
9Ofnwch yr Arglwydd, ei / saint – / ef :
oherwydd nid oes eisiau / ar y / rhai a’i / hofna.
10Y mae’r anffyddwyr yn dioddef angen ac / yn ne/wynu :
ond nid yw’r rhai sy’n ceisio’r / Arglwydd · yn / brin o · ddim / da.
11Dewch, blant, gwran/dewch – / arnaf :
dysgaf / ichwi / ofn yr / Arglwydd.
12Pwy ohonoch sy’n dy/muno / bywyd :
ac a garai fyw’n / hir · i fwyn/hau da/ioni?
13Cadw dy dafod / rhag dryg/ioni :
a’th wefusau / rhag lle/faru / celwydd.
14Tro oddi wrth ddrygioni / a gwna / dda :
ceisia / heddwch / a’i – / ddilyn.
15Y mae llygaid yr Arglwydd / ar y / cyfiawn :
a’i / glustiau’n · a/gored · i’w / cri.
16Y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai / sy’n gwneud / drwg :
i ddi/leu eu / coffa · o’r / ddaear.
17Pan waedda’r / cyfiawn · am / gymorth :
fe glyw’r Arglwydd a’u gwaredu o’u / holl – / gyfyng/derau.
18Y mae’r Arglwydd yn agos at y dryll/iedig · o / galon :
ac yn gwa/redu’r · briw/edig o / ysbryd.
19Llawer o adfyd a / gaiff y / cyfiawn :
ond gwareda’r / Arglwydd / ef o’r / cyfan.
20Ceidw / ei holl / esgyrn :
ac ni / thorrir · yr / un o/honynt.
21Y mae adfyd yn / lladd · y dryg/ionus :
a chosbir y / rhai · sy’n ca/sáu’r – / cyfiawn.
22Y mae’r Arglwydd yn gwa/redu · ei / weision :
ac ni chosbir y / rhai · sy’n llo/chesu / ynddo.

Dewis Presennol:

Salm 34: SPBCND

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda