Salmydd 36
36
SALM XXXVI.
7au, Everton. Melton.
1D’wed yr anwir yn ei fyw,
A fy nghalon innau glyw, —
2-4Am ofn Duw na ŵyr y dyn:
Twylla bawb a thwylla’i hun.
5Arglwydd, mae’th drugaredd gu
Cyfuwch ag yw’r nefoedd fry,
A’th ffyddlondeb in’ bob awr
Gyrhaedd i’r cymylau mawr.
6Fel mynyddoedd cedyrn mae
Dy gyfiawnder yn parhau;
A’th ragluniaeth, ddyfned yw!
Cedwi bob creadur byw.
7O! mor werthfawr yn mhob gwlad
Yw’th drugaredd ryfedd rad;
Ac am hyn ymwthia’r byd
Beunydd dan dy aden glyd.
8Cedwi dŷ cyfoethog, llawn,
Ynddo ein digoni gawn;
Afon dy hyfrydwch sydd
I’n diodi nos a dydd.
9Gyda Thi ffynonell gudd
Bywyd y gre’digaeth sydd;
Goleu’r nef ni welwn ni
Ond yn ngoleu’th wyneb di.
10Estyn eto i barhau
Dy drugaredd ini’n glau;
11Ac i’n herbyn byth na ddoed
Balchder a’i orthrymus droed.
Dewis Presennol:
Salmydd 36: SC1885
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.