Salmydd 35
35
SALM XXXV.
8.8.6 llin. Matthias. Carey.
1O! Arglwydd, dadleu ar fy rhan,
Ac ymladd frwydrau’m henaid gwan;
2Ymafael yn y darian gron,
3Ac allan dwg y waewffon;
9-10Pwy a’n gwareda fel Tydi
O law y rhai sydd drech na ni?
D’wed wrth fy enaid, O! fy Nuw, —
Myfi dy iachawdwriaeth yw;
A chân fy esgyrn a fy nghnawd
I ti sy’n gwrando cwyn y tlawd:
Pwy a’n gwareda fel Tydi
O law y rhai sydd drech na ni?
11I’m herbyn cododd tystion gau,
Heb achos maent yn fy nghasau;
17Na lwydded yr annuwiol haid,
O! Arglwydd, cymmer di fy mhlaid;
10Pwy a’n gwareda fel Tydi
O law y rhai sydd drech na ni?
26Cydgywilyddier hwynt i gyd
Ar gwymp y cyfiawn sydd a’u bryd;
27Tra’r lleill o lawen galon lân,
Mawryger Duw a fydd eu cân;
10Pwy a’n gwareda fel Tydi
O law y rhai sydd drech na ni?
Dewis Presennol:
Salmydd 35: SC1885
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.