Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 77

77
Y LXXVII Psalm. Deuair hirion etto.
1A’m llêf y gwaedhaf am llais,
Ar Dhuw oglyd dhi-waglais:
Am llêf y gwaedhaf hefyd
Ar dhuw tra fwy byw ir byd:
Ag ef yn rhwydh (gwiw-lwydh gu)
Gowrein-deg oll am gwrendu.
2Yn fynhrallod gyfnod gais,
Cyson yr Arglwydh ceisiais:
Rhedodh liw nôs yn rhydost,
Fy archollion taerion tôst:
Fenaid isod gwrthododh,
Ei dhidhanv fwyn-gv fodh.
3Medhyliwn am Dduw olvd,
Im trallod merwindodmvd.
Pann derfysgyd fysprydfwy,
A gwedh awen gwedhiwy.
4Deliaist fy llygaid dolvr,
Yn neffro lawn‐gyffro gvr:
Dychrynnais synnais ennyd,
Heb lefarv (fwy‐fwy fvd.)
5Yna ystyriais anian,
Y dydhiav gynt rwydh‐ynt rann.
A blynydhedh ryfedh rêd,
Yr hên oesoedh hynawsed,
6Medhyliaf mav eidhil-wedh,
Am fy nghan, wirion‐gân wedh:
Myfyrio ’rwyf dhi‐nwyf‐un,
Di-warth hwnt wrthyf fy hun:
F’yspryd eidhil sy ’n chwilio,
Fel hynn ar ryw Dremyn dro.
7Ai ’n dragywydh (by-gudh hir)
Y cilia ’r arglwydh coel-wir?
Ag oni chair (gair gofwy,
Gwae mud maith) ei gymodmwy?
8Ei drugaredh ai hedhoedh,
Ai byth‐derfyn vdhyn oedh?
A balla gair sadair sôn,
Dhi‐oed‐oes ei adhewidion?
9A anghofiodh Duw fodhau,
(Draw gywir hedh) drugarhan?
Ai mewn sorriant dyfiant dîg,
Caeodh drugar-fodh orig?
10A dwedais diau wedi,
Dyma ’ngwendid, ofid i:
Cofiaf goedh flynydhoedh law,
Dhuw hael-wych ei dheheulaw.
11Cofiaf weithredoedh cyfiawn,
Yr arglwydh dhiweir-lwydhdhawn;
Cofiaf d’wrthiau (finnau fâb)
O ’r cyn-fyd wryd arab.
12A Myfyriaf mwy fwriad,
D’oll weithredoedh rhifoedh rhâd:
A chwedleuaf iownaf Iôn
Mâgiad am dy dhychmygion
13Dy ffordh ô dhuw, ri-dhuw rwydh
Sy ’n tuedh-rym santeidhr wydh
Pa Dhuw sydh (gwiw-lwydh geli)
Mor fawr an duw nowdh-fyw ni
14Tydi ô Dhuw gloyw-dhuw glôd
Orau fodh wnai ryfedhod
’Mysc y bobloedh luoedh-fawr
’Spysaist dy nerth mur-nerth mawr
15Gwarêdaist tra‐gwir ydyw,
Yn nerthol fodh-reiel ryw:
Dy bobloedh luoedh ar lêd,
Meibion hîl dhi-eidhiled:
Siacob dhwys-gob dhewis-gair,
A Sioseph hoff or-hoff air.
16Dyfroedh tawel ath welsant,
Ti ô Dhvw synhwyr-dhuw sant:
Dyfroedh ath welsant di-frys,
Ag ofnasant ryssiant rus:
Pôb dyfndêr (duw nêr in wyd)
Gwyn hir-fawr a gynhyrfwyd.
17Cymylau dalfau di-lwfr,
Pistyllient dhylifent dhwfr:
Yr wybrennau nennau wnênf,
Dwrw garw lle gwyrent
Dy saethau rwyfau lle ’r ânt,
gwrdh isod a gerdhasant.
18Twrf dy daran tarf diroedh,
Amgylch‐glywyd flin-gryd floedh:
Melltennau amwyllt anian,
Goleuent fyd synn-fyd sann:
Cyffrôdh a chrynodh oi charn
Ydhayar graf-gar gryf-garn
19Dy ffordh sydh dofydh difai,
Yn y môr sugn-fôr lle sai:
Ath lwybrau ôlau eilwaith,
Yn y dyfroedh mowroedh maith:
Nôd anian ni adweinir,
Dy ôl gamrau (geiriau gwir.)
20Twysaist dy bobl at oesi,
Dy gorlannaid defaid di.
Drwy law Moses liw-dês lan,
Ag Aaron fwyn-gu eirian.

Dewis Presennol:

Psalmau 77: SC1595

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda