Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 76

76
Y LXXVI Psalm. Deuair hirion etto.
1Gwir-hynod o dhefod dhâ,
Yw (os adwen) Duw ’n Suwda:
A mawr ei enw a mael,
Yn newis-rann yr Israel.
2Ei babell dra‐eur‐well drem,
Y sy eilwaith yn Salem:
Ai drigfa dhuw wiw-dhuw Iôn,
A sai annedh yn Seion.
3Yna drylliodh fowr-fodh fu,
Y saethau thag ei seythu:
Y bwa crŷf rygryf rann,
Clau o’r tir a’r clawr‐tarian:
Y cledhyf hoyw-gryf hy-grwydr
Friw-daith, a’r rudh-waed frwydr.
4Discleiriach a chadarnach chwyrn,
Wyt na ’r câdau wŷr cedyrn.
5Cedyrn‐galon ladron lû,
Yspeiliwyd nes ei pylu:
Hûnasant ei hûn isod,
(Hûnant ni ryglydhent glod)
Milwyr, câd-wyr, rai cyd-nerth,
Dim ni chowsant nwyfiant nerth.
6O Dhuw Iacob aur‐gôb‐waith,
Gann dy gerydh derydh daith:
Y rhoed y cerbyd y rhawg,
Y March i gyscu, a’r marchawg.
7Tydi, tydi, fy Rhî rhwydh,
D’ofni a dhyli dhuw‐lwydh:
Pwy a saif (araif îr-aen)
Pann fydhid ith lîd, oth flaen.
8O ’r nefoedh y cyhoedhyd
Dy farn oreu-farn ar fyd:
Yr oll dhayar gronn-war grê
Os digiyt a ostege.
9Pann gododh Duw (freu-dhuw frû)
O fowr-nerth, drâw i farnu:
Ag i achub (gu‐wych‐ir)
Rhai llednais di-drais ar dir.
10Cyndharedh dyn bol-dyn balch,
A’th folianna (fael iownwalch)
A’i cyndharedh o wedhyll
Gostegi draw dhifraw dhull,
11Adhunwch i Dhuw iniawn,
Telwch dhi-eidhilwch dhawn:
Dygwch wiw-dêg anrhegoedh,
Rhai iw amgylch‐ogylch oedh:
I’r ofnad wy lân waneg,
Rhowch anrhegiad taliad têg.
12E dynn Duw yspryd byw-iaith,
Twysogion gwyr mowrion maith:
I frenhinoedh bydoedh bydh,
Ofnadwy wir-ofnedydh.

Dewis Presennol:

Psalmau 76: SC1595

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda