Rhufeiniaid 2:6-11
Rhufeiniaid 2:6-11 BCND
Bydd ef yn talu i bawb yn ôl eu gweithredoedd: bywyd tragwyddol i'r rhai sy'n dal ati i wneud daioni, gan geisio gogoniant, anrhydedd ac anfarwoldeb; ond digofaint a dicter i'r rheini a ysgogir gan gymhellion hunanol i fod yn ufudd, nid i'r gwirionedd, ond i anghyfiawnder. Gorthrymder ac ing fydd i bob bod dynol sy'n gwneud drygioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid; ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd fydd i bob un sy'n gwneud daioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid. Nid oes ffafriaeth gerbron Duw.

