Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 2:6-11 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Rhufeiniaid 2:6-11 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Bydd yn talu nôl i bob un beth mae’n ei haeddu. Bydd y rhai sydd eisiau derbyn ysblander, anrhydedd ac anfarwoldeb gan Dduw – sef y rhai sy’n dal ati i wneud daioni – yn cael bywyd tragwyddol. Ond y rhai hynny sydd ddim ond yn meddwl amdanyn nhw eu hunain, ac sy’n gwrthod y gwir ac yn gwneud pethau drwg – fydd dim byd ond dicter Duw a chosb yn eu disgwyl nhw. Poen a dioddefaint fydd i’r rhai sy’n gwneud drwg – i’r Iddew ac i bawb arall; ond ysblander, anrhydedd a heddwch dwfn fydd i’r rhai sy’n gwneud daioni – i’r Iddew ac i bawb arall. Mae pawb yr un fath – does gan Dduw ddim ffefrynnau!

Rhufeiniaid 2:6-11 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Bydd ef yn talu i bawb yn ôl eu gweithredoedd: bywyd tragwyddol i'r rhai sy'n dal ati i wneud daioni, gan geisio gogoniant, anrhydedd ac anfarwoldeb; ond digofaint a dicter i'r rheini a ysgogir gan gymhellion hunanol i fod yn ufudd, nid i'r gwirionedd, ond i anghyfiawnder. Gorthrymder ac ing fydd i bob bod dynol sy'n gwneud drygioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid; ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd fydd i bob un sy'n gwneud daioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid. Nid oes ffafriaeth gerbron Duw.

Rhufeiniaid 2:6-11 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: Eithr i’r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint; Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a’r Groegwr hefyd: Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i’r Iddew yn gyntaf, ac i’r Groegwr hefyd. Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.