Y Salmau 68:21-35
Y Salmau 68:21-35 BCND
Yn wir, bydd Duw'n dryllio pennau ei elynion, pob copa gwalltog, pob un sy'n rhodio mewn euogrwydd. Dywedodd yr Arglwydd, “Dof â hwy'n ôl o Basan, dof â hwy'n ôl o waelodion y môr, er mwyn iti drochi dy droed mewn gwaed, ac i dafodau dy gŵn gael eu cyfran o'r gelynion.” Gwelir dy orymdeithiau, O Dduw, gorymdeithiau fy Nuw, fy Mrenin, i'r cysegr— y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn, a rhyngddynt forynion yn canu tympanau. Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw, a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel. Yno y mae Benjamin fychan yn eu harwain, a thyrfa tywysogion Jwda, tywysogion Sabulon a thywysogion Nafftali. O Dduw, dangos dy rym, y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom. O achos dy deml yn Jerwsalem daw brenhinoedd ag anrhegion i ti. Cerydda anifeiliaid gwyllt y corsydd, y gyr o deirw gyda'u lloi o bobl; sathra i lawr y rhai sy'n dyheu am arian, gwasgara'r bobl sy'n ymhyfrydu mewn rhyfel. Bydded iddynt ddod â phres o'r Aifft; brysied Ethiopia i estyn ei dwylo at Dduw. Canwch i Dduw, deyrnasoedd y ddaear; rhowch foliant i'r Arglwydd, Sela i'r un sy'n marchogaeth yn y nefoedd, y nefoedd a fu erioed. Clywch! Y mae'n llefaru â'i lais nerthol. Cydnabyddwch nerth Duw; y mae ei ogoniant uwchben Israel a'i rym yn y ffurfafen. Y mae Duw yn arswydus yn ei gysegr; y mae Duw Israel yn rhoi ynni a nerth i'w bobl. Bendigedig fyddo Duw.

