Salm 68:21-35
Salm 68:21-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fe ydy’r Duw sy’n taro pennau ei elynion – pob copa walltog sy’n euog o’i flaen. Dwedodd yr ARGLWYDD, “Bydda i’n dod â’r gelynion yn ôl o Bashan, ie, hyd yn oed yn ôl o waelod y môr! Byddi’n trochi dy draed yn eu gwaed, a bydd tafodau dy gŵn yn cael eu siâr o’r cyrff.” Mae pobl yn gweld dy orymdaith, O Dduw, yr orymdaith pan mae fy Nuw, fy mrenin, yn mynd i’r cysegr: y cantorion ar y blaen, yna’r offerynnwr yng nghanol y merched ifanc sy’n taro’r tambwrîn. “Bendithiwch Dduw yn y gynulleidfa fawr! Bendithiwch yr ARGLWYDD, bawb sy’n tarddu o ffynnon Israel.” Dacw Benjamin, yr ifancaf, yn arwain; penaethiaid Jwda yn dyrfa swnllyd; penaethiaid Sabulon a Nafftali. Mae dy Dduw yn dy wneud di’n gryf! O Dduw, sydd wedi gweithredu ar ein rhan, dangos dy rym wrth ddod o dy deml yn Jerwsalem. Boed i frenhinoedd dalu teyrnged i ti! Cerydda fwystfil y corsydd brwyn, y gyr o deirw a’r bobl sy’n eu dilyn fel lloi! Gwna iddyn nhw blygu o dy flaen a rhoi arian i ti’n rhodd. Ti’n gyrru’r bobloedd sy’n mwynhau rhyfel ar chwâl! Bydd llysgenhadon yn dod o’r Aifft, a bydd pobl Affrica yn brysio i dalu teyrnged i Dduw. Canwch i Dduw, chi wledydd y byd! Canwch fawl i’r ARGLWYDD. Saib I’r un sy’n marchogaeth drwy’r awyr – yr awyr sydd yno o’r dechrau. Gwrandwch! Mae ei lais nerthol yn taranu. Cyfaddefwch mor rymus ydy Duw! Mae e’n teyrnasu yn ei holl ysblander dros Israel, ac yn dangos ei rym yn yr awyr. O Dduw, rwyt ti’n syfrdanol yn dod allan o dy gysegr! Ie, Duw Israel sy’n rhoi grym a nerth i’w bobl. Boed i Dduw gael ei anrhydeddu!
Salm 68:21-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn wir, bydd Duw'n dryllio pennau ei elynion, pob copa gwalltog, pob un sy'n rhodio mewn euogrwydd. Dywedodd yr Arglwydd, “Dof â hwy'n ôl o Basan, dof â hwy'n ôl o waelodion y môr, er mwyn iti drochi dy droed mewn gwaed, ac i dafodau dy gŵn gael eu cyfran o'r gelynion.” Gwelir dy orymdeithiau, O Dduw, gorymdeithiau fy Nuw, fy Mrenin, i'r cysegr— y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn, a rhyngddynt forynion yn canu tympanau. Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw, a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel. Yno y mae Benjamin fychan yn eu harwain, a thyrfa tywysogion Jwda, tywysogion Sabulon a thywysogion Nafftali. O Dduw, dangos dy rym, y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom. O achos dy deml yn Jerwsalem daw brenhinoedd ag anrhegion i ti. Cerydda anifeiliaid gwyllt y corsydd, y gyr o deirw gyda'u lloi o bobl; sathra i lawr y rhai sy'n dyheu am arian, gwasgara'r bobl sy'n ymhyfrydu mewn rhyfel. Bydded iddynt ddod â phres o'r Aifft; brysied Ethiopia i estyn ei dwylo at Dduw. Canwch i Dduw, deyrnasoedd y ddaear; rhowch foliant i'r Arglwydd, Sela i'r un sy'n marchogaeth yn y nefoedd, y nefoedd a fu erioed. Clywch! Y mae'n llefaru â'i lais nerthol. Cydnabyddwch nerth Duw; y mae ei ogoniant uwchben Israel a'i rym yn y ffurfafen. Y mae Duw yn arswydus yn ei gysegr; y mae Duw Israel yn rhoi ynni a nerth i'w bobl. Bendigedig fyddo Duw.
Salm 68:21-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
DUW yn ddiau a archolla ben ei elynion; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau. Dywedodd yr Arglwydd, Dygaf fy mhobl drachefn o Basan, dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr; Fel y trocher dy droed yng ngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr unrhyw. Gwelsant dy fynediad, O DDUW; mynediad fy NUW, fy Mrenin, yn y cysegr. Y cantorion a aethant o’r blaen, a’r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau. Bendithiwch DDUW yn y cynulleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel. Yno y mae Benjamin fychan â’u llywydd, tywysogion Jwda â’u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion Nafftali. Dy DDUW a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O DDUW, yr hyn a wnaethost ynom ni. Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem. Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedig â darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel. Pendefigion a ddeuant o’r Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at DDUW. Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i DDUW; canmolwch yr Arglwydd: Sela: Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol. Rhoddwch i DDUW gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a’i nerth yn yr wybrennau. Ofnadwy wyt, O DDUW, o’th gysegr: DUW Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl. Bendigedig fyddo DUW.