Ac yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Yr oedd wedi dioddef yn enbyd dan driniaeth llawer o feddygon, ac wedi gwario'r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles ond yn hytrach mynd yn waeth. Yr oedd hon wedi clywed am Iesu, a daeth o'r tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd â'i fantell, oherwydd yr oedd hi wedi dweud, “Os cyffyrddaf hyd yn oed â'i ddillad ef, fe gaf fy iacháu.” A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o'i chlwyf. Ac ar unwaith deallodd Iesu ynddo'i hun fod y nerth oedd yn tarddu ynddo wedi mynd allan, a throes yng nghanol y dyrfa, a gofyn, “Pwy gyffyrddodd â'm dillad?” Meddai ei ddisgyblion wrtho, “Yr wyt yn gweld y dyrfa'n gwasgu arnat ac eto'n gofyn, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’ ” Ond daliodd ef i edrych o'i gwmpas i weld yr un oedd wedi gwneud hyn. Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir. Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.”
Darllen Marc 5
Gwranda ar Marc 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 5:25-34
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos