Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 9

9
Iacháu Dyn wedi ei Barlysu
Mc. 2:1–12; Lc. 5:17–26
1Aeth Iesu i mewn i gwch a chroesi'r môr a dod i'w dref ei hun. 2A dyma hwy'n dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar wely. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, “Cod dy galon, fy mab; maddeuwyd dy bechodau.” 3A dyma rai o'r ysgrifenyddion yn dweud ynddynt eu hunain, “Y mae hwn yn cablu.” 4Deallodd Iesu eu meddyliau ac meddai, “Pam yr ydych yn meddwl pethau drwg yn eich calonnau? 5Oherwydd p'run sydd hawsaf, ai dweud, ‘Maddeuwyd dy bechodau’, ai ynteu dweud, ‘Cod a cherdda’? 6Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear”—yna meddai wrth y claf, “Cod, a chymer dy wely a dos adref.” 7A chododd ac aeth ymaith i'w gartref. 8Pan welodd y tyrfaoedd hyn daeth ofn arnynt a rhoesant ogoniant i Dduw, yr hwn a roddodd y fath awdurdod i ddynion.
Galw Mathew
Mc. 2:13–17; Lc. 5:27–32
9Wrth fynd heibio oddi yno gwelodd Iesu ddyn a elwid Mathew yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Canlyn fi.” Cododd yntau a chanlynodd ef. 10Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, a dyma lawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn dod ac yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion. 11A phan welodd y Phariseaid, dywedasant wrth ei ddisgyblion, “Pam y mae eich athro yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” 12Clywodd Iesu, a dywedodd, “Nid ar y cryfion ond ar y cleifion y mae angen meddyg. 13Ond ewch a dysgwch beth yw ystyr hyn, ‘Trugaredd a ddymunaf, nid aberth’. Oherwydd i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”
Holi ynglŷn ag Ymprydio
Mc. 2:18–22; Lc. 5:33–39
14Yna daeth disgyblion Ioan ato a dweud, “Pam yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio llawer, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?” 15Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas alaru cyhyd ag y mae'r priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant. 16Ni fydd neb yn gwnïo clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; oherwydd fe dynn y clwt wrth y dilledyn, ac fe â'r rhwyg yn waeth. 17Ni fydd pobl chwaith yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwnânt, fe rwygir y crwyn, fe gollir y gwin a difethir y crwyn. Ond byddant yn tywallt gwin newydd i grwyn newydd, ac fe gedwir y ddau.”
Merch y Llywodraethwr, a'r Wraig a Gyffyrddodd â Mantell Iesu
Mc. 5:21–43; Lc. 8:40–56
18Tra oedd ef yn siarad fel hyn â hwy, dyma ryw lywodraethwr yn dod ato ac ymgrymu iddo a dweud, “Y mae fy merch newydd farw; ond tyrd a rho dy law arni, ac fe fydd fyw.” 19A chododd Iesu a dilynodd ef gyda'i ddisgyblion. 20A dyma wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd yn dod ato o'r tu ôl ac yn cyffwrdd ag ymyl ei fantell. 21Oherwydd yr oedd hi wedi dweud ynddi ei hun, “Dim ond imi gyffwrdd â'i fantell, fe gaf fy iacháu.” 22A throes Iesu, a gwelodd hi, ac meddai, “Cod dy galon, fy merch; y mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” Ac iachawyd y wraig o'r munud hwnnw. 23Pan ddaeth Iesu i dŷ'r llywodraethwr, a gweld y pibyddion a'r dyrfa mewn cynnwrf, 24dywedodd, “Ewch ymaith, oherwydd nid yw'r eneth wedi marw; cysgu y mae.” Dechreusant chwerthin am ei ben. 25Ac wedi i'r dyrfa gael ei gyrru allan, aeth ef i mewn a gafael yn ei llaw, a chododd yr eneth. 26Ac aeth yr hanes am hyn allan i'r holl ardal honno.
Iacháu Dau Ddyn Dall
27Wrth i Iesu fynd oddi yno dilynodd dau ddyn dall ef gan weiddi, “Trugarha wrthym ni, Fab Dafydd.” 28Wedi iddo ddod i'r tŷ daeth y deillion ato, a gofynnodd Iesu iddynt, “A ydych yn credu y gallaf wneud hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym, syr.” 29Yna cyffyrddodd â'u llygaid a dweud, “Yn ôl eich ffydd boed i chwi.” 30Agorwyd eu llygaid, a rhybuddiodd Iesu hwy yn llym, “Gofalwch na chaiff neb wybod.” 31Ond aethant allan a thaenu'r hanes amdano yn yr holl ardal honno.
Iacháu Dyn Mud
32Fel yr oeddent yn mynd ymaith, dyma rywrai'n dwyn ato ddyn mud wedi ei feddiannu gan gythraul. 33Wedi i'r cythraul gael ei fwrw allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y tyrfaoedd gan ddweud, “Ni welwyd erioed y fath beth yn Israel.” 34Ond dywedodd y Phariseaid, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid.”
Tosturi Iesu
35Yr oedd Iesu'n mynd o amgylch yr holl drefi a'r pentrefi, dan ddysgu yn eu synagogau hwy, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob afiechyd a phob llesgedd. 36A phan welodd ef y tyrfaoedd tosturiodd wrthynt am eu bod yn flinderus a diymadferth fel defaid heb fugail. 37Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; 38deisyfwch felly ar Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhaeaf.”

Dewis Presennol:

Mathew 9: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd