A phan welodd y Phariseaid, dywedasant wrth ei ddisgyblion, “Pam y mae eich athro yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” Clywodd Iesu, a dywedodd, “Nid ar y cryfion ond ar y cleifion y mae angen meddyg. Ond ewch a dysgwch beth yw ystyr hyn, ‘Trugaredd a ddymunaf, nid aberth’. Oherwydd i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.” Yna daeth disgyblion Ioan ato a dweud, “Pam yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio llawer, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?” Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas alaru cyhyd ag y mae'r priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant. Ni fydd neb yn gwnïo clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; oherwydd fe dynn y clwt wrth y dilledyn, ac fe â'r rhwyg yn waeth. Ni fydd pobl chwaith yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwnânt, fe rwygir y crwyn, fe gollir y gwin a difethir y crwyn. Ond byddant yn tywallt gwin newydd i grwyn newydd, ac fe gedwir y ddau.”
Darllen Mathew 9
Gwranda ar Mathew 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 9:11-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos