Pan welodd Iesu dyrfa o'i amgylch, rhoddodd orchymyn i groesi i'r ochr draw. Daeth un o'r ysgrifenyddion a dweud wrtho, “Athro, canlynaf di lle bynnag yr ei.” Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.” Dywedodd un arall o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.” Ond meddai Iesu wrtho, “Canlyn fi, a gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain.”
Darllen Mathew 8
Gwranda ar Mathew 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 8:18-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos