Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 8:1-4

Mathew 8:1-4 BCND

Wedi iddo ddod i lawr o'r mynydd dilynodd tyrfaoedd mawr ef. A dyma ddyn gwahanglwyfus yn dod ato ac yn syrthio o'i flaen a dweud, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.” Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ar unwaith glanhawyd ei wahanglwyf. Meddai Iesu wrtho, “Gwylia na ddywedi wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma'r rhodd a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.”