Gyda'r nos yr oedd wrth y bwrdd gyda'r Deuddeg. Ac fel yr oeddent yn bwyta, dywedodd Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i.” A chan dristáu yn fawr dechreusant ddweud wrtho, bob un ohonynt, “Nid myfi yw, Arglwydd?” Atebodd yntau, “Un a wlychodd ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a'm bradycha i. Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae'n ysgrifenedig amdano, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i'r dyn hwnnw petai heb ei eni.” Dywedodd Jwdas ei fradychwr, “Nid myfi yw, Rabbi?” Meddai Iesu wrtho, “Ti a ddywedodd hynny.”
Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd Iesu fara, ac wedi bendithio fe'i torrodd a'i roi i'r disgyblion, a dywedodd, “Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.” A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe'i rhoddodd iddynt gan ddweud, “Yfwch ohono, bawb, oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau. Rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o hwn, ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad.” Ac wedi iddynt ganu emyn aethant allan i Fynydd yr Olewydd.
Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch chwi o'm hachos i heno, oherwydd y mae'n ysgrifenedig:
“ ‘Trawaf y bugail,
a gwasgerir defaid y praidd.’
“Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.” Atebodd Pedr ef, “Er iddynt gwympo bob un o'th achos di, ni chwympaf fi byth.” Meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno, cyn i'r ceiliog ganu, fy ngwadu i deirgwaith.” “Hyd yn oed petai'n rhaid imi farw gyda thi,” meddai Pedr wrtho, “ni'th wadaf byth.” Ac felly y dywedodd y disgyblion i gyd.
Yna daeth Iesu gyda hwy i le a elwir Gethsemane, ac meddai wrth y disgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf fi'n mynd fan draw i weddïo.” Ac fe gymerodd gydag ef Pedr a dau fab Sebedeus; a dechreuodd deimlo tristwch a thrallod dwys. Yna meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch gyda mi.” Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar ei wyneb gan weddïo, “Fy Nhad, os yw'n bosibl, boed i'r cwpan hwn fynd heibio i mi; ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di.” Daeth yn ôl at y disgyblion a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, “Felly! Oni allech wylio am un awr gyda mi? Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.” Aeth ymaith drachefn yr ail waith a gweddïo, “Fy Nhad, os nad yw'n bosibl i'r cwpan hwn fynd heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di.” A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm. Ac fe'u gadawodd eto a mynd ymaith i weddïo y drydedd waith, gan lefaru'r un geiriau drachefn. Yna daeth at y disgyblion a dweud wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyma'r awr yn agos, a Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid. Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu.”
Yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn dod, a chydag ef dyrfa fawr yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a henuriaid y bobl. Rhoddodd ei fradychwr arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef.” Ac yn union aeth at Iesu a dweud, “Henffych well, Rabbi”, a chusanodd ef. Dywedodd Iesu wrtho, “Gyfaill, gwna'r hyn yr wyt yma i'w wneud.” Yna daethant a rhoi eu dwylo ar Iesu a'i ddal. A dyma un o'r rhai oedd gyda Iesu yn estyn ei law ac yn tynnu ei gleddyf a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd. Yna dywedodd Iesu wrtho, “Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy'n cymryd y cleddyf yn marw trwy'r cleddyf. A wyt yn tybio na allwn ddeisyf ar fy Nhad, ac na roddai i mi yn awr fwy na deuddeg lleng o angylion? Ond sut felly y cyflawnid yr Ysgrythurau sy'n dweud mai fel hyn y mae'n rhaid iddi ddigwydd?”