Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 26:20-54

Mathew 26:20-54 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd gyda’r deuddeg disgybl. Tra oedden nhw’n bwyta, meddai wrthyn nhw, “Wir i chi, mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i.” Roedden nhw’n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall, “Meistr, dim fi ydy’r un, nage?” Atebodd Iesu, “Bydd un ohonoch chi’n fy mradychu i – un sydd yma, ac wedi trochi ei fwyd yn y ddysgl saws gyda mi. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae’r un sy’n mynd i’m bradychu i! Byddai’n well arno petai erioed wedi cael ei eni!” Wedyn dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i’w fradychu, yn dweud, “Rabbi, dim fi ydy’r un, nage?” “Ti sy’n dweud,” atebodd Iesu. Tra oedden nhw’n bwyta, dyma Iesu’n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma, a’i fwyta,” meddai. “Dyma fy nghorff i.” Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a’i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi. Dyma fy ngwaed, sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae’n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw. Wir i chi, fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw’r dydd y bydda i’n ei yfed o’r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.” Wedyn, ar ôl canu emyn, dyma nhw’n mynd allan i Fynydd yr Olewydd. “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i heno” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i’n taro’r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.’ Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw, af i o’ch blaen chi i Galilea.” Dyma Pedr yn dweud yn bendant, “Wna i byth droi cefn arnat ti, hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!” “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i’r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di’n fy nabod i.” Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i’n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda ti!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth. Dyma Iesu’n mynd gyda’i ddisgyblion i le o’r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i’n mynd draw acw i weddïo.” Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae’r tristwch dw i’n ei deimlo yn ddigon i’m lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.” Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i’r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny’n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw’n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi. Mae’r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib cymryd y cwpan chwerw yma i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.” Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw’n methu’n lân â chadw eu llygaid ar agor. Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith. Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi’n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae’r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. Codwch, gadewch i ni fynd! Mae’r bradwr wedi cyrraedd!” Wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas, un o’r deuddeg disgybl, yn ymddangos gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig eraill wedi’u hanfon nhw i ddal Iesu. Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai’n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i’n ei gyfarch â chusan ydy’r dyn i’w arestio.” Aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Helo Rabbi!”, meddai, ac yna ei gyfarch â chusan. “Gwna be ti wedi dod yma i’w wneud, gyfaill,” meddai Iesu wrtho. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a’i arestio. Ond yn sydyn, dyma un o ffrindiau Iesu yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd. “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Bydd pawb sy’n trin y cleddyf yn cael eu lladd â’r cleddyf. Wyt ti ddim yn sylweddoli y gallwn i alw ar fy Nhad am help, ac y byddai’n anfon miloedd ar filoedd o angylion ar unwaith? Ond sut wedyn fyddai’r ysgrifau sanctaidd sy’n dweud fod rhaid i hyn i gyd ddigwydd yn dod yn wir?”

Mathew 26:20-54 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gyda'r nos yr oedd wrth y bwrdd gyda'r Deuddeg. Ac fel yr oeddent yn bwyta, dywedodd Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i.” A chan dristáu yn fawr dechreusant ddweud wrtho, bob un ohonynt, “Nid myfi yw, Arglwydd?” Atebodd yntau, “Un a wlychodd ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a'm bradycha i. Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae'n ysgrifenedig amdano, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i'r dyn hwnnw petai heb ei eni.” Dywedodd Jwdas ei fradychwr, “Nid myfi yw, Rabbi?” Meddai Iesu wrtho, “Ti a ddywedodd hynny.” Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd Iesu fara, ac wedi bendithio fe'i torrodd a'i roi i'r disgyblion, a dywedodd, “Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.” A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe'i rhoddodd iddynt gan ddweud, “Yfwch ohono, bawb, oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau. Rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o hwn, ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad.” Ac wedi iddynt ganu emyn aethant allan i Fynydd yr Olewydd. Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch chwi o'm hachos i heno, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Trawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.’ “Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.” Atebodd Pedr ef, “Er iddynt gwympo bob un o'th achos di, ni chwympaf fi byth.” Meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno, cyn i'r ceiliog ganu, fy ngwadu i deirgwaith.” “Hyd yn oed petai'n rhaid imi farw gyda thi,” meddai Pedr wrtho, “ni'th wadaf byth.” Ac felly y dywedodd y disgyblion i gyd. Yna daeth Iesu gyda hwy i le a elwir Gethsemane, ac meddai wrth y disgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf fi'n mynd fan draw i weddïo.” Ac fe gymerodd gydag ef Pedr a dau fab Sebedeus; a dechreuodd deimlo tristwch a thrallod dwys. Yna meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch gyda mi.” Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar ei wyneb gan weddïo, “Fy Nhad, os yw'n bosibl, boed i'r cwpan hwn fynd heibio i mi; ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di.” Daeth yn ôl at y disgyblion a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, “Felly! Oni allech wylio am un awr gyda mi? Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.” Aeth ymaith drachefn yr ail waith a gweddïo, “Fy Nhad, os nad yw'n bosibl i'r cwpan hwn fynd heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di.” A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm. Ac fe'u gadawodd eto a mynd ymaith i weddïo y drydedd waith, gan lefaru'r un geiriau drachefn. Yna daeth at y disgyblion a dweud wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyma'r awr yn agos, a Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid. Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu.” Yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn dod, a chydag ef dyrfa fawr yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a henuriaid y bobl. Rhoddodd ei fradychwr arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef.” Ac yn union aeth at Iesu a dweud, “Henffych well, Rabbi”, a chusanodd ef. Dywedodd Iesu wrtho, “Gyfaill, gwna'r hyn yr wyt yma i'w wneud.” Yna daethant a rhoi eu dwylo ar Iesu a'i ddal. A dyma un o'r rhai oedd gyda Iesu yn estyn ei law ac yn tynnu ei gleddyf a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd. Yna dywedodd Iesu wrtho, “Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy'n cymryd y cleddyf yn marw trwy'r cleddyf. A wyt yn tybio na allwn ddeisyf ar fy Nhad, ac na roddai i mi yn awr fwy na deuddeg lleng o angylion? Ond sut felly y cyflawnid yr Ysgrythurau sy'n dweud mai fel hyn y mae'n rhaid iddi ddigwydd?”

Mathew 26:20-54 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda’r deuddeg. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un ohonoch chwi a’m bradycha i. A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i. Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef. A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddodd i’r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn: Canys hwn yw fy ngwaed o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad. Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o’m plegid i: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir. Eithr wedi fy atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o’th blegid di, eto ni’m rhwystrir i byth. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai’r nos hon, cyn canu o’r ceiliog, y’m gwedi deirgwaith. Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion. Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw. Ac efe a gymerth Pedr, a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio. Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi. Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi? Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan. Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di. Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau. Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorffwyswch: wele, y mae’r awr wedi nesáu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid. Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu. Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. A’r hwn a’i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef. Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a’i cusanodd ef. A’r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a’i daliasant ef. Ac wele, un o’r rhai oedd gyda’r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i’w le: canys pawb a’r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf. A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion? Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod?