Yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Er iddi wario ar feddygon y cwbl oedd ganddi i fyw arno, nid oedd wedi llwyddo i gael gwellhad gan neb. Daeth hon ato o'r tu ôl a chyffwrdd ag ymyl ei fantell; ar unwaith peidiodd llif ei gwaed hi. Ac meddai Iesu, “Pwy gyffyrddodd â mi?” Gwadodd pawb, ac meddai Pedr, “Meistr, y tyrfaoedd sy'n pwyso ac yn gwasgu arnat.” Ond meddai Iesu, “Fe gyffyrddodd rhywun â mi, oherwydd fe synhwyrais i fod nerth wedi mynd allan ohonof.” Pan ganfu'r wraig nad oedd hi ddim wedi osgoi sylw, daeth ymlaen dan grynu; syrthiodd wrth ei draed a mynegi gerbron yr holl bobl pam yr oedd hi wedi cyffwrdd ag ef, a sut yr oedd wedi gwella ar unwaith. Ac meddai ef wrthi, “Fy merch, dy ffydd sydd wedi dy iacháu di; dos mewn tangnefedd.”
Darllen Luc 8
Gwranda ar Luc 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 8:43-48
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos