Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 8:1-13

Jeremeia 8:1-13 BCND

“Yn yr amser hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “fe godir o'u beddau esgyrn brenhinoedd Jwda, esgyrn y tywysogion, esgyrn yr offeiriaid, esgyrn y proffwydi ac esgyrn trigolion Jerwsalem, a'u taenu yn wyneb yr haul a'r lleuad a holl lu'r nefoedd y buont yn eu caru ac yn eu gwasanaethu, gan rodio ar eu hôl ac ymofyn ganddynt a'u haddoli. Byddant heb eu casglu a heb eu claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear. Bydd angau yn well nag einioes gan yr holl weddill a adewir o'r teulu drwg hwn ym mhob man y gyrrais hwy iddo,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “ ‘Os cwympant, oni chyfodant? Os try un ymaith, oni ddychwel? Pam, ynteu, y trodd y bobl hyn ymaith, ac y parhaodd Jerwsalem i encilio? Glynasant wrth dwyll, gan wrthod dychwelyd. Cymerais sylw a gwrandewais, ond ni lefarodd neb yn uniawn; nid edifarhaodd neb am ei ddrygioni a dweud, “Beth a wneuthum?” Y mae pob un yn troi yn ei redfa, fel march cyn rhuthro i'r frwydr. Y mae'r crëyr yn yr awyr yn adnabod ei dymor; y durtur a'r wennol a'r fronfraith yn cadw amser eu dyfod; ond nid yw fy mhobl yn gwybod trefn yr ARGLWYDD. Sut y dywedwch, “Yr ydym yn ddoeth, y mae cyfraith yr ARGLWYDD gyda ni”? Yn sicr, gwnaeth ysgrifbin celwyddog yr ysgrifennydd gelwydd ohoni. Cywilyddiwyd y doeth, fe'u dychrynwyd ac fe'u daliwyd. Dyma hwy wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD; pa ddoethineb sydd ganddynt felly? “ ‘Am hynny, rhof eu gwragedd i eraill, a'u meysydd i'w concwerwyr. Oherwydd o'r lleiaf hyd y mwyaf y mae pawb yn awchu am elw; o'r proffwyd i'r offeiriad y maent bob un yn gweithredu'n ffals. Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw merch fy mhobl, gan ddweud, “Heddwch! Heddwch!”—ac nid oes heddwch. A oes cywilydd arnynt pan wnânt ffieidd-dra? Dim cywilydd o gwbl! Ni allant wrido. Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig; yn nydd eu cosbi fe gwympant,’ medd yr ARGLWYDD. “ ‘Pan gasglwn hwy,’ medd yr ARGLWYDD, ‘nid oedd grawnwin ar y gwinwydd, na ffigys ar y ffigysbren; gwywodd y ddeilen, aeth heibio yr hyn a roddais iddynt.’ ”