Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 8:1-13

Jeremeia 8:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Meddai’r ARGLWYDD, “Bryd hynny, bydd esgyrn brenhinoedd Jwda yn cael eu cymryd allan o’u beddau, ac esgyrn y swyddogion hefyd, a’r offeiriaid a’r proffwydi, a phawb arall oedd yn byw yn Jerwsalem. Byddan nhw’n cael eu gosod allan dan yr haul a’r lleuad a’r sêr. Dyma’r ‘duwiau’ roedden nhw’n eu caru a’u gwasanaethu, yn addo bod yn ffyddlon iddyn nhw, yn ceisio arweiniad ganddyn nhw ac yn eu haddoli. A fydd yr esgyrn ddim yn cael eu casglu eto i’w claddu. Byddan nhw’n gorwedd fel tail ar wyneb y tir! “Bydd rhai o’r bobl ddrwg yma wedi byw drwy’r cwbl a’u hanfon i ffwrdd i leoedd eraill. Ond byddai’n well gan y rheiny petaen nhw wedi marw!” – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. “Jeremeia, dywed wrthyn nhw mai dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Pan mae pobl yn syrthio, ydyn nhw ddim yn codi eto? Pan maen nhw’n colli’r ffordd, ydyn nhw ddim yn troi yn ôl? Os felly, pam mae’r bobl yma’n dal i fynd y ffordd arall? Pam mae pobl Jerwsalem yn dal i droi cefn arna i? Maen nhw’n dal gafael mewn twyll, ac yn gwrthod troi’n ôl ata i. Dw i wedi gwrando’n ofalus arnyn nhw, a dŷn nhw ddim yn dweud y gwir. Does neb yn sori am y drwg maen nhw wedi’i wneud; neb yn dweud, “Dw i ar fai.” Maen nhw i gyd yn mynd eu ffordd eu hunain, fel ceffyl yn rhuthro i’r frwydr. Mae’r crëyr yn gwybod pryd i fudo, a’r durtur, y wennol a’r garan. Maen nhw i gyd yn dod yn ôl ar yr adeg iawn o’r flwyddyn. Ond dydy fy mhobl i’n cymryd dim sylw o’r hyn dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ofyn ganddyn nhw. Sut allwch chi ddweud, “Dŷn ni’n ddoeth, mae Cyfraith yr ARGLWYDD gynnon ni”? Y gwir ydy fod athrawon y gyfraith yn ysgrifennu pethau sy’n gwyrdroi beth mae’n ei ddweud go iawn. Bydd y dynion doeth yn cael eu cywilyddio. Byddan nhw’n syfrdan wrth gael eu cymryd i’r ddalfa. Nhw wnaeth wrthod neges yr ARGLWYDD – dydy hynny ddim yn ddoeth iawn! Felly bydda i’n rhoi eu gwragedd i ddynion eraill, a’u tir i’w concwerwyr. Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest – y bobl gyffredin a’r arweinwyr. Hyd yn oed y proffwydi a’r offeiriaid – maen nhw i gyd yn twyllo! Mae’r help maen nhw’n ei gynnig yn arwynebol a gwag. “Bydd popeth yn iawn,” medden nhw; ond dydy popeth ddim yn iawn! Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth! Ond na! Does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido! Felly byddan nhw’n cael eu lladd gyda pawb arall. Bydda i’n eu cosbi nhw, a byddan nhw’n syrthio.’” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Pan oeddwn i eisiau casglu’r cynhaeaf,” meddai’r ARGLWYDD, “doedd dim grawnwin na ffigys yn tyfu ar y coed. Roedd hyd yn oed y dail ar y coed wedi gwywo. Roedden nhw wedi colli popeth rois i iddyn nhw.”

Jeremeia 8:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Yn yr amser hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “fe godir o'u beddau esgyrn brenhinoedd Jwda, esgyrn y tywysogion, esgyrn yr offeiriaid, esgyrn y proffwydi ac esgyrn trigolion Jerwsalem, a'u taenu yn wyneb yr haul a'r lleuad a holl lu'r nefoedd y buont yn eu caru ac yn eu gwasanaethu, gan rodio ar eu hôl ac ymofyn ganddynt a'u haddoli. Byddant heb eu casglu a heb eu claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear. Bydd angau yn well nag einioes gan yr holl weddill a adewir o'r teulu drwg hwn ym mhob man y gyrrais hwy iddo,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “ ‘Os cwympant, oni chyfodant? Os try un ymaith, oni ddychwel? Pam, ynteu, y trodd y bobl hyn ymaith, ac y parhaodd Jerwsalem i encilio? Glynasant wrth dwyll, gan wrthod dychwelyd. Cymerais sylw a gwrandewais, ond ni lefarodd neb yn uniawn; nid edifarhaodd neb am ei ddrygioni a dweud, “Beth a wneuthum?” Y mae pob un yn troi yn ei redfa, fel march cyn rhuthro i'r frwydr. Y mae'r crëyr yn yr awyr yn adnabod ei dymor; y durtur a'r wennol a'r fronfraith yn cadw amser eu dyfod; ond nid yw fy mhobl yn gwybod trefn yr ARGLWYDD. Sut y dywedwch, “Yr ydym yn ddoeth, y mae cyfraith yr ARGLWYDD gyda ni”? Yn sicr, gwnaeth ysgrifbin celwyddog yr ysgrifennydd gelwydd ohoni. Cywilyddiwyd y doeth, fe'u dychrynwyd ac fe'u daliwyd. Dyma hwy wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD; pa ddoethineb sydd ganddynt felly? “ ‘Am hynny, rhof eu gwragedd i eraill, a'u meysydd i'w concwerwyr. Oherwydd o'r lleiaf hyd y mwyaf y mae pawb yn awchu am elw; o'r proffwyd i'r offeiriad y maent bob un yn gweithredu'n ffals. Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw merch fy mhobl, gan ddweud, “Heddwch! Heddwch!”—ac nid oes heddwch. A oes cywilydd arnynt pan wnânt ffieidd-dra? Dim cywilydd o gwbl! Ni allant wrido. Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig; yn nydd eu cosbi fe gwympant,’ medd yr ARGLWYDD. “ ‘Pan gasglwn hwy,’ medd yr ARGLWYDD, ‘nid oedd grawnwin ar y gwinwydd, na ffigys ar y ffigysbren; gwywodd y ddeilen, aeth heibio yr hyn a roddais iddynt.’ ”

Jeremeia 8:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerwsalem, allan o’u beddau. A hwy a’u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a’r rhai a wasanaethasant, a’r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a’r rhai a geisiasant, a’r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant. Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd ARGLWYDD y lluoedd. Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel? Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd. Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i’w yrfa, megis march yn rhuthro i’r frwydr. Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a’r aran, a’r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr ARGLWYDD. Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr ARGLWYDD sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion. Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele, gwrthodasant air yr ARGLWYDD; a pha ddoethineb sydd ynddynt? Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno: canys o’r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd-dod; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster. Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch. A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd-dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr ARGLWYDD. Gan ddifa y difâf hwynt, medd yr ARGLWYDD; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a’r ddeilen a syrth; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.