Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 28

28
Gwae ar Effraim
1Gwae goronau balch meddwon Effraim,
blodau gwyw eu haddurn gogoneddus
ar ben y beilchion#28:1 Felly Sgrôl. TM, y dyffryn. Felly hefyd yn adn. 4. bras a orchfygwyd gan win.
2Wele, y mae gan yr ARGLWYDD un nerthol a chryf;
fel storm o genllysg, fel tymestl ddinistriol,
fel cenllif o ddyfroedd yn gorlifo'n ddilyw,
fe ymesyd yn ddidostur ar y ddaear.
3Bydd coronau balch meddwon Effraim
wedi eu mathru dan draed;
4a bydd blodau gwyw eu haddurn gogoneddus
ar ben y beilchion bras
fel ffigysen gynnar cyn yr haf;
pan wêl rhywun hi fe'i llynca gyda'i bod yn ei law.
5Yn y dydd hwnnw bydd ARGLWYDD y Lluoedd
yn goron odidog, yn dorch brydferth i weddill ei bobl,
6yn ysbryd tegwch i'r sawl sy'n eistedd mewn barn,
ac yn gadernid i'r sawl sy'n troi'r rhyfel draw o'r porth.
7Ond y mae eraill sy'n simsan gan win,
ac yn gwegian yn eu diod;
y mae'r offeiriad a'r proffwyd yn simsan yn eu diod,
ac wedi drysu gan win;
y maent yn gwegian mewn diod,
yn simsan yn eu gweledigaeth,
ac yn baglu yn eu dyfarniad.
8Y mae pob bwrdd yn un chwydfa;
nid oes unman heb fudreddi.
9“Pwy y mae'n ceisio'i ddysgu,
ac i bwy y mae am roi gwers?
Ai rhai newydd eu diddyfnu
a'u tynnu oddi wrth y fron?
10Y mae fel dysgu sillafu:
‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’—
gair bach yma, gair bach draw.”
11Yn wir, trwy iaith estron a thafod dieithr
y lleferir wrth y bobl hyn,
12y rhai y dywedodd wrthynt,
“Dyma'r orffwysfa, rhowch orffwys i'r lluddedig,
dyma'r esmwythfa”—ond ni fynnent wrando.
13Ond dyma air yr ARGLWYDD iddynt:
“Mater o ddysgu sillafu yw hi:
‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’—
gair bach yma, gair bach draw.”
Felly, wrth fynd ymlaen, fe syrthiant yn ôl,
a'u clwyfo, a'u baglu a'u dal.
14Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi wŷr gwatwarus,
penaethiaid y bobl hyn sydd yn Jerwsalem.
15Yr ydych chwi'n dweud, “Gwnaethom gyfamod ag angau
a chynghrair â Sheol:
pan fydd y ffrewyll lethol yn mynd heibio, ni fydd yn cyffwrdd â ni,
am inni wneud celwydd yn noddfa inni a cheisio lloches mewn twyll.”
16Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw:
“Wele fi'n gosod carreg sylfaen yn Seion,
maen a brofwyd, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy;
ni frysia'r sawl sy'n credu.
17Gwnaf farn yn llinyn mesur,
a chyfiawnder yn blymen;
bydd y cenllysg yn ysgubo ymaith eich noddfa celwydd,
a'r dyfroedd yn boddi eich lloches;
18diddymir eich cyfamod ag angau,
ac ni saif eich cynghrair â Sheol.
Pan â'r ffrewyll lethol heibio
cewch eich mathru dani.
19Bob tro y daw heibio, fe'ch tery;
y naill fore ar ôl y llall fe ddaw,
liw dydd a liw nos.”
Ni fydd namyn dychryn i'r sawl a ddeall y wers.
20Y mae'r gwely'n rhy fyr i rywun ymestyn ynddo,
a'r cwrlid yn rhy gul i'w blygu amdano.
21Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel ar Fynydd Perasim,
ac yn bwrw ei ddicter fel yn nyffryn Gibeon,
i orffen ei waith, ei ddieithr waith,
ac i gyflawni ei orchwyl, ei estron orchwyl.
22Yn awr, peidiwch â'ch gwatwar,
rhag i'r rhwymau dynhau amdanoch,
canys clywais gyhoeddi diwedd a therfyn ar yr holl wlad
gan Arglwydd DDUW y Lluoedd.
23Clywch, gwrandewch arnaf,
rhowch sylw, a gwrandewch ar fy ngeiriau.
24A fydd yr arddwr yn aredig trwy'r dydd ar gyfer hau,
trwy'r dydd yn torri'r tir ac yn ei lyfnu?
25Oni fydd, ar ôl lefelu'r wyneb,
yn taenu ffenigl ac yn gwasgaru cwmin,
yn hau gwenith a haidd#28:25 Felly Fersiynau. Hebraeg yn ychwanegu dau air amwys.,
a cheirch ar y dalar?
26Y mae ei Dduw yn ei hyfforddi
ac yn ei ddysgu'n iawn.
27Nid â llusgen y dyrnir ffenigl,
ac ni throir olwyn men ar gwmin;
ond dyrnir ffenigl â ffon,
a'r cwmin â gwialen.
28Fe felir ŷd i gael bara,
ac nid yw'r dyrnwr yn ei falu'n ddiddiwedd;
er gyrru olwyn men drosto,
ni chaiff y meirch ei fathru.
29Daw hyn hefyd oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd;
y mae ei gyngor yn rhyfeddol
a'i allu'n fawr.

Dewis Presennol:

Eseia 28: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd