Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 27

27
Gwaredigaeth i Israel
1Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD â'i gleddyf creulon, mawr a nerthol yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr. 2Yn y dydd hwnnw y canwch gân y winllan ddymunol:
3“Myfi, yr ARGLWYDD, fydd yn ei chadw,
ei dyfrhau bob munud,
a'i gwylio nos a dydd,
rhag i neb ei cham-drin.
4Nid oes gennyf lid yn ei herbyn;
os drain a mieri a rydd imi,
rhyfelaf yn ei herbyn, a'u llosgi i gyd;
5ond os yw am afael ynof am sicrwydd, gwnaed heddwch â mi,
gwnaed heddwch â mi.”
6Fe ddaw'r adeg i Jacob fwrw gwraidd,
ac i Israel flodeuo a blaguro,
a llenwi'r ddaear i gyd â chnwd.
7A drawodd Duw ef fel y trawodd ef yr un a'i trawodd?
A laddwyd ef fel y lladdodd ef yr un a'i lladdodd?
8Trwy symud ymaith a bwrw allan, yr wyt yn ei barnu,
ac yn ei hymlid â gwynt creulon pan gyfyd o'r dwyrain.
9Am hynny, fel hyn y mae glanhau drygioni Jacob,
a hyn#27:9 Hebraeg yn ychwanegu yr holl ffrwyth. fydd yn symud ymaith ei gamwedd—
gwneud holl feini'r allor
fel cerrig calch wedi eu malu,
heb bost nac allor yn sefyll.
10Oherwydd y mae'r ddinas gadarn yn unig,
yn fangre wedi ei gadael a'i gwrthod, fel diffeithdir,
lle y mae'r llo yn pori a gorwedd,
ac yn cnoi pob blaguryn sy'n tyfu.
11Pan wywa'i changau, fe'u torrir,
a daw'r gwragedd a chynnau tân â hwy.
Am mai pobl heb ddeall ydynt,
ni fydd eu Gwneuthurwr yn dangos dim trugaredd,
na'u Creawdwr yn gwneud dim ffafr â hwy.
12Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn dyrnu ŷd
o'r afon Ewffrates hyd nant yr Aifft,
ac fe gewch chwi, blant Israel, eich lloffa bob yn un ac un.
13Yn y dydd hwnnw fe genir ag utgorn mawr;
ac fe ddaw'r rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria,
a'r rhai oedd ar chwâl yn yr Aifft,
ac addoli'r ARGLWYDD yn y mynydd sanctaidd,
yn Jerwsalem.

Dewis Presennol:

Eseia 27: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd