Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 10:1-13

Hosea 10:1-13 BCND

Gwinwydden doreithiog oedd Israel, a'i ffrwyth yr un fath â hi. Fel yr amlhaodd ei ffrwyth, amlhaodd yntau allorau; fel y daeth ei dir yn well, gwnaeth yntau ei golofnau yn well. Aeth eu calon yn ffals, ac yn awr y maent yn euog. Dryllia ef eu hallorau, a difetha'u colofnau. Yn awr y maent yn dweud, “Nid oes inni frenin, am nad ydym yn ofni'r ARGLWYDD, a pha beth a wnâi brenin i ni?” Llefaru geiriau y maent, a gwneud cyfamod â llwon ffals. Y mae barn yn codi fel chwyn gwenwynllyd yn rhychau'r maes. Y mae trigolion Samaria yn crynu o achos llo Beth-afen. Y mae ei bobl yn galaru amdano, a'i eilun-offeiriaid yn wylofain amdano, am i'w ogoniant ymadael oddi wrtho. Fe'i dygir ef i Asyria, yn anrheg i frenin mawr. Gwneir Effraim yn warth a chywilyddia Israel oherwydd ei eilun. Y mae brenin Samaria yn gyffelyb i frigyn ar wyneb dyfroedd. Distrywir uchelfeydd Beth-afen, pechod Israel; tyf drain a mieri ar eu hallorau; a dywedant wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni”, ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnom”. “Er dyddiau Gibea pechaist, O Israel; safasant yno mewn gwrthryfel. Oni ddaw rhyfel arnynt yn Gibea? Dof i'w cosbi, a chasglu pobloedd yn eu herbyn, pan gaethiwir hwy am eu drygioni deublyg. “Heffer wedi ei thorri i mewn yw Effraim; y mae'n hoff o ddyrnu; gosodaf iau ar ei gwar deg, a rhof Effraim mewn harnais; bydd Jwda yn aredig, a Jacob yn llyfnu iddo. Heuwch gyfiawnder, a byddwch yn medi ffyddlondeb; triniwch i chwi fraenar; y mae'n bryd ceisio'r ARGLWYDD, iddo ddod a glawio cyfiawnder arnoch. “Buoch yn aredig drygioni, yn medi anghyfiawnder, ac yn bwyta ffrwyth celwydd.