1 Thesaloniaid 2:10-12
1 Thesaloniaid 2:10-12 BCND
Yr ydych chwi'n dystion, a Duw yn dyst hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a di-fai y bu ein hymddygiad tuag atoch chwi sy'n credu. A'r un modd, fe wyddoch inni fod i bob un ohonoch fel tad i'w blant, gan apelio atoch, trwy eich annog a'ch rhybuddio i fyw yn deilwng o'r Duw sydd yn eich galw i'w deyrnas a'i ogoniant ei hun.

