1 Thesaloniaid 2:10-12
1 Thesaloniaid 2:10-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dych chi’n dystion, ac mae Duw’n dyst hefyd, ein bod ni wedi bod yn ddidwyll, yn deg a di-fai yn y ffordd wnaethon ni eich trin chi ddaeth i gredu. Roedden ni’n trin pob un ohonoch chi fel mae tad yn trin ei blant – yn eich calonogi chi a’ch cysuro chi a’ch annog chi i fyw fel mae Duw am i chi fyw. Mae e wedi’ch galw chi i fyw dan ei deyrnasiad e, ac i rannu ei ysblander.
1 Thesaloniaid 2:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydych chwi'n dystion, a Duw yn dyst hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a di-fai y bu ein hymddygiad tuag atoch chwi sy'n credu. A'r un modd, fe wyddoch inni fod i bob un ohonoch fel tad i'w blant, gan apelio atoch, trwy eich annog a'ch rhybuddio i fyw yn deilwng o'r Duw sydd yn eich galw i'w deyrnas a'i ogoniant ei hun.
1 Thesaloniaid 2:10-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Tystion ydych chwi, a Duw hefyd, mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, a diargyhoedd, yr ymddygasom yn eich mysg chwi y rhai ydych yn credu: Megis y gwyddoch y modd y buom yn eich cynghori, ac yn eich cysuro, bob un ohonoch, fel tad ei blant ei hun, Ac yn ymbil, ar rodio ohonoch yn deilwng i Dduw, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w deyrnas a’i ogoniant.