Rhufeiniaid 3
3
Ateb Gwrthddadleuon.
1Pa beth, ynte, yw rhagoriaeth#3:1 Perisson, yr hyn sydd tuhwnt, dros ben, felly, rhagoriaeth, rhagorfraint, uchafiaeth. yr Iuddew, neu pa beth yw budd yr enwaediad? 2Llawer ym mhob modd: yn gyntaf#3:2 Ni cheir yr ail reswm., yn wir, oblegyd ddarfod ymddiried iddynt am oraclau#3:2 Logia, ymadroddion byr, dadganiadau ysprydoledig. Dynodant yma Ysgrythyrau yr Hen Destament, yn enwedig yr addewidion am y Messia. Duw. 3Oblegyd beth os annghredodd rhai? a wna eu hannghrediniaeth hwy ffyddlondeb#3:3 Defnyddir yr un gair Groeg am ffydd a ffyddlondeb. Am Dduw, defnyddir yr ansoddair fynychaf, “Ffyddlawn yw Duw” (1 Cor 1:9; 10:13; 2 Cor 1:18). Duw yn ddirym#3:3 Defnyddir y ferf katargeô gan Paul 25 o weithiau. Prif feddwl y gair yw gwneyd yn aneffeithiol, gwrthweithio fel i attal, gwneyd yn ofer, yn ddirym.? 4Ddim o gwbl!#3:4 Llyth., na fydded! Ddim o gwbl. Defnyddir y frawddeg gan Paul 14 o weithiau. eithr bydded Duw yn eirwir#3:4 ‘Bydded i Dduw gael ei brofi, ei gael allan, yn eirwir.’, a phob dyn yn gelwyddog, megys y mae yn ysgrifenedig: Fel y'th gyfiawnhâer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y'th farner#3:4 Neu, pan ddeui i farn, ‘pan sefi o flaen dy wrthwynebydd’; ‘pan yr eli i gyfraith.’#Salm 51:4. 5Eithr os ein hannghyfiawnder ni a ganmol#3:5 Sunistêmi, gosod ynghyd, sefyll ynghyd (2 Petr 3:5), yna cyflwyno, canmol. Hefyd golyga profi, sefydlu. gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? ai annghyfiawn yw Duw yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (Yn ol dull dyn yr wyf yn dywedyd); 6ddim o gwbl#3:6 Llyth., na fydded! Ddim o gwbl. Defnyddir y frawddeg gan Paul 14 o weithiau.! os felly, pa fodd y barna Duw y byd? 7Ond os gwirionedd#3:7 Neu, gwirioneddolrwydd. Duw, trwy#3:7 Llyth., yn (fel maes gweithrediad gwirionedd Duw). fy nghelwydd#3:7 Twyll, anffyddlondeb. i, a ymhelaethodd i'w ogoniant ef, paham y'm bernir innau hefyd etto fel pechadur? 8a phaham nad (fel y'n ceblir, ac fel y dywed rhai ein bod yn dywedyd) “Gwnawn ddrwg#3:8 Llyth., ‘y pethau drwg … y pethau da.’ fel y del ddaioni#3:8 Llyth., ‘y pethau drwg … y pethau da.’?” y rhai y mae eu dedfryd yn gyfiawn.
Pawb yn Gollfarnedig dan Gaethiwed Pechod.
9Beth gan hynny? a ragorir#3:9 Y mae gwahaniaeth barn a yw y ferf yn y llais canolog neu yn y goddefol. Tebygol yr olaf. Yn ol y blaenaf, ‘A ragorwn ni, yr Iuddewon, ar y Groegiaid’? Yn ol yr ail, ‘A ragorir arnom ni, yr Iuddewon, gan y Groegiaid’? Rhai a gyfieithant, ‘A esgusodwn ein hunain’? arnom ni? ddim o gwbl; canys ni a gyhuddasom#3:9 Megys mewn llys cyfreithiol. Iuddewon a Groegiaid hefyd eu bod oll dan bechod; 10fel y mae yn ysgrifenedig, Nid oes cyfiawn, ddim un;
11Nid oes neb yn deall, nid oes neb yn ceisio Duw;
12Gŵyrasant oll, aethant un ac oll yn anfuddiol; nid oes yn gwneyd daioni#3:12 Neu, caredigrwydd., nid oes hyd y nod un#3:12 Dyfyniad rhydd o Salm 14:1–3, gan wahaniaethu yn fawr oddiwrth yr Hebraeg.:
13Bedd agored yw eu ceg; â'u tafodau y gwnaethant ddichell#3:13 Salm 5:9.; gwenwyn aspiaid sydd dan eu gwefusau#3:13 Salm 140:3.:
14Y rhai y mae eu genau yn orlawn o felldith a chwerwedd#3:14 Salm 10:7, “Ei enau sydd yn llawn melldith, a dichell, a thwyll.”:
15Buan yw eu traed i dywallt gwaed;
16Distryw ac adfyd sydd yn eu ffyrdd;
17A ffordd tangnefedd nid adwaenasant#3:17 Rhydd ddyfyniad yw adnodau 15–17 o Es 59:9, 10.:
18Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid#3:18 Salm 36:1..
19Ond ni a wyddom am ba bethau bynnag y mae y ddeddf yn eu dywedyd#3:19 Golyga ‘dywedyd’ gynnwys y ddeddf, a ‘llefaru’ y ffurf y rhoddir dadganiad iddo., wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn llefaru#3:19 Golyga ‘dywedyd’ gynnwys y ddeddf, a ‘llefaru’ y ffurf y rhoddir dadganiad iddo., fel y cauer pob genau, ac fel yr elo yr holl fyd yn agored i farn#3:19 Hupodikos, dan farn Duw, yn erbyn yr hwn y pechwyd. Duw: 20O herwydd trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd ger ei fron ef; canys trwy ddeddf y mae adnabod pechod#3:20 Llyth., ‘y mae gwybodaeth o bechod.’.
Nid trwy Ddeddf ond trwy Ffydd y Cyfiawnheir,
21Eithr yn awr, ar wahan i ddeddf, y mae cyfiawnder#3:21 Nid y cyfiawnder o herwydd yr hwn y mae Duw yn gyfiawn, ond trwy yr hwn y gwneir dyn yn gyfiawn. o eiddo Duw wedi ei amlygu, i'r hwn y tystiolaethir gan y ddeddf a'r prophwydi#3:21 Y mae y termau yn cynnwys y cysgodau, addewidion, prophwydoliaethau.; 22sef cyfiawnder Duw trwy ffydd#3:22 Sef ffydd yng Nghrist. Efe yw eu gwrthrych. Iesu Grist i#3:22 I bawb א A B C Brnd.; i bawb ac ar bawb D F G. Rhai o'r Tadau a farnent fod i bawb yn cyfeirio at yr Iuddewon, ac ar bawb, at y Cenhedloedd. bawb sydd yn credu: canys nid oes gwahaniaeth#3:22 Yn Paul yn unig. Y mae Iuddew a Chenedl‐ddyn yn yr un cynllun o iachawdwriaeth.; 23oblegyd pawb a bechasant, ac ydynt yn amddifad#3:23 Bod mewn anghen o, bod ar ol am. o ogoniant Duw#3:23 Gwahanol farnau: (1) Ymffrost gerbron Duw; (2) Delw Duw; (3) Gogoniant y bywyd tragywyddol; (4) Cymmeradwyaeth Duw; (5) Gogoniant cyfiawnder personol. Golyga yr anrhydedd a rydd Duw., 24ond yn cael eu cyfiawnhau#3:24 Y mae cyssylltiad agos rhwng bod ‘yn amddifad o’ a chael ‘eu cyfiawnhau.’ Pan yn ‘amddifad’ y mae y ‘cyfiawnhau’ yn cymmeryd lle. yn rhad gan ei ras ef trwy y brynedigaeth#3:24 Defnyddir ddeng gwaith yn y T. N. Golyga brynu neu waredu trwy dalu iawn — yn ol y Tadau — i Satan! Ond i Dduw yr oedd yn ddyledus. sydd yng Nghrist Iesu: 25yr hwn a osododd#3:25 Yn ol rhai, a rag‐ordeiniodd, fwriadodd. Duw allan yn Drugareddfa#3:25 Dyma y gair (hilastêrion) a ddefnyddir yn ddieithriad (26 o weithiau) gan y LXX. i ddynodi y Drugareddfa yn y Sanctaidd Sancteiddiolaf (Heb.: Kapporeth). Y mae iaith yr Apostol yn dangos fod y Drugareddfa yn ei feddwl, ac y mae yn derm cynnwysfawr ac arwyddocaol o waith iawnol Crist. Rhesymmau yn erbyn y cyfieithiad ‘yn Drugareddfa’: (1) Prif ystyr y gair yw ‘taliad iawn.’ Pe hynny, ‘Trugareddfa’ yw y llawer mwy cyffredin; (2) Ni elwir Crist mewn un man arall yn ‘Drugareddfa.’ Ni ddesgrifir ef ychwaith fel ‘Drws,’ ‘Pasc,’ ‘Craig,’ ond unwaith; (3) Byddai defnyddio y ffugyr yn sydyn a chwithig; ond yr oedd y Cenhedloedd yn hollol mor gyfarwydd â'r fath gyssegrau a'r Iuddewon; (4) Y mae ‘Trugareddfa’ yn gofyn y fannod o'i flaen. Nac ydyw, canys deffinir y gair yn eglur gan y geiriau ‘yn ei waed’; (5) Yr oedd y ‘Drugareddfa’ o'r golwg. Ydoedd, ond dyma y gwahaniaeth rhwng yr Hen a'r Newydd. Y mae ein ‘Trugareddfa’ ni yn y golwg, a chroesaw i bawb ddyfod atti. Hwn hefyd yw unig ystyr y gair yn yr unig fan arall y defnyddir ef yn y T. N., Heb 9:5., trwy ffydd, yn ei waed ef, er arddangosiad o'i gyfiawnder ef, o herwydd ei fynediad#3:25 Paresis, ‘pasio’ heibio, peidio cospi ar y pryd, ac nid maddeu yn hollol (aphesis). heibio i'r pechodau a wnaethpwyd o'r blaen, yn nyoddefgarwch Duw; 26er arddangosiad o'i gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe ei hun yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau yr hwn sydd o#3:26 Llyth., allan o. Yr hwn y mae ei ffydd yng Nghrist fel gwreiddyn ei berthynas â Duw. ffydd Iesu. 27Pa le gan hynny y mae yr ymffrost? Cauwyd ef allan. Trwy ba fath ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage, eithr trwy ddeddf ffydd. 28Canys#3:28 Canys A א D F G; am hynny B C. yr ydym ni yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, ar wahan oddiwrth weithredoedd deddf. 29Ai Duw i Iuddewon yn unig yw efe? onid i Genhedloedd hefyd? Ië, i Genhedloedd hefyd, 30os yn wir un yw Duw, yr hwn a gyfiawnhâ yr enwaediad mewn canlyniad#3:30 Llyth., allan o. Cyfiawnheid yr Iuddewon, fel plant Abraham, trwy ffydd, fel y Cenhedloedd; ond, yn ol yr ymadrodd hwn, yr oedd eu ffydd i dyfu allan, megys o'r gwreiddyn oedd yn Abraham. i ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd. 31A ydym, gan hynny, yn dirymmu deddf trwy ffydd? Ddim o gwbl! eithr yr ydym yn cadarnhau deddf.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 3: CTE
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.