Rhufeiniaid 2
2
Y Beirniad Iuddewig hefyd yn Gondemniedig.
1O herwydd paham, diesgus wyt, O ddyn, bob un sydd yn barnu, canys yn yr hyn yr wyt yn barnu y llall#2:1 Llyth., yr un gwahanol, sef, y Cenedl‐ddyn. Yr Iuddew sydd yn ei farnu., yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu wyt yn gwneuthur yr un pethau. 2Ac ni a wyddom fod barn Duw yn ol gwirionedd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau. 3Ac a wyt ti yn cyfrif hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thi yn gwneuthur yr un pethau, y diengi di rhag barn Duw? 4Neu a ddiystyri di olud#2:4 Y mae y gair, fel yn ddesgrifiadol o ddoniau ysprydol Duw, yn cael ei ddefnyddio gan Paul yn unig. ei ddaioni#2:4 Chrêstotês, cymmwynasgarwch, caredigrwydd, haelfrydigrwydd. a'i oddefgarwch a'i hir‐ymaros, gan fod heb wybod fod rhodd ddaionus#2:4 To chrêston, peth daionus. Duw yn dy dywys#2:4 Y mae tywys yn golygu ewyllys dyn yn ogystal ag ewyllys Duw. ‘Y mae Duw yn arwain y rhai sydd ewyllysgar i gael eu harwain.’ di i edifeirwch? 5Eithr yn ol dy galedrwydd a'th galon ddiedifeiriol, yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a dadguddiad cyfiawn farn Duw, 6yr hwn a dâl i bob un yn ol ei weithredoedd#Diar 24:12, LXX: 7i'r rhai, yn wir, mewn amynedd yn gwneuthur da#2:7 Llyth., yn ol amynedd gweithred dda. Amynedd yw yr egwyddor neu y safon yn yr ymchwiliad am ogoniant, &c. Y mae ‘gweithred’ yn sefyll am waith bywyd. a geisiant ogoniant, ac anrhydedd ac anllygredigaeth, y bydd bywyd tragwyddol; 8ond i'r rhai sydd gynhennus#2:8 Llyth., o gynnen, o blaid, yn gweithredu o yspryd pleidgar a chynhennus. ac yn anufuddhau i'r gwirionedd, ond yn ufudd i annghyfiawnder, y bydd digofaint#2:8 Digofaint a llid א A B D G Brnd. a llid#2:8 Orgê, digofaint, yw y teimlad, thumos, llid, yr amlygiad o hono. Ni ddefnyddir ‘llid’ mewn cyssylltiad â Duw ond yma, ac yn y Dadguddiad (11:4, 10, 19; 15:1, 7; 16:1, 19; 19:15)., 9trallod#2:9 Y mae trallod yn golygu yma enaid o dan bwysau trwm; cyfyngder, mewn lle cyfyng, sydd yn cau o'i amgylch. Nid difodiant yw cosp yr annuwiol, ond ymwybodolrwydd poenus. a chyfyngder ar bob enaid dyn sydd yn gweithredu yr hyn sydd ddrwg, yr Iuddew yn gyntaf, a'r Groegwr hefyd; 10ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd i bob un sydd yn gweithredu yr hyn sydd dda, i'r Iuddew yn gyntaf, ac i'r Groegwr hefyd: 11canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw. 12Canys cynnifer ag a bechasant yn ddiddeddf#2:12 Heb Gyfraith ddadguddiedig., yn ddiddeddf hefyd a gyfrgollir; a chynnifer ag a bechasant dan#2:12 Llyth., yn, o fewn cylch a dylanwad deddf. Bernir hwy yn ol Cyfraith ddadguddiedig. ddeddf, trwy ddeddf a fernir; 13canys nid gwrandawyr deddf#2:13 Egwyddor deddf a geir yma, ac nid ei chynnwysiad fel yng Nghyfraith Moses. Defnyddir y gair mewn tri ystyr: (1) deddf yn gyffredinol (heb y fannod); (2) Cyfraith Moses, nid fel eiddo Moses ond fel yn meddiannu nodweddau deddf (heb y fannod etto); (3) Cyfraith Moses, â'r hon fel y cyfryw yr oedd y darllenydd yn gydnabyddus (gyda'r fannod, ho nomos, ‘Y Ddeddf’). sydd gyfiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr deddf a gyfiawnheir. 14Canys pan fo Cenhedloedd, y rhai nid#2:14 Grym yr ymadrodd: ‘Y rhai, dybiem ni, nid oes ganddynt ddeddf’ (Gr. mê). oes ganddynt ddeddf, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau y ddeddf, y rhai hyn, heb ddeddf, ydynt ddeddf iddynt eu hunain#2:14 Lle mae cyflawniad deddf, yno y mae deddf., 15yn gyfryw ag sydd yn dangos gwaith y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, eu cydwybod yn cyd‐dystiolaethu#2:15 Sef, a gofynion y ddeddf., a'u meddyliau#2:15 Neu, ymresymiadau., rhyngddynt a hwy eu gilydd#2:15 Y mae meddyliau y galon megys yn cael eu personoli, fel y maent yn eistedd mewn barn ar ymddygiad y dyn. Y maent yn cynnal cynadledd ar ei achos. Eraill a esboniant yr ymadrodd fel yn cyfeirio at wahanol bersonau yn pasio eu barn ar iawnder neu feiusrwydd gweithredoedd neu ymddygiad. Gwnant hyn mewn ymddiddan, llyfrau, &c., yn cyhuddo neu yn esgusodi, 16yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ol fy Efengyl i, trwy Iesu Grist.
Methiant yr Iuddew.
17Eithr#2:17 Ide (wele) L; ei de (ond os) A B א D Brnd. tydi, os Iuddew y'th gyfenwir, ac ymorphwyso o honot ar ddeddf, ac ymffrostio yn Nuw; 18ac yn gwybod ei ewyllys, a chymmeradwyo y pethau rhagorol#2:18 Neu, ‘a phrofi y pethau a wahaniaethant.’, wedi dy egwyddori allan o'r ddeddf; 19ac yn hyderus dy fod dy hun yn arweinydd y deillion, yn oleuni y rhai sydd mewn tywyllwch, 20yn ddysgyblydd#2:20 Paideutês, ysgolfeistr, dysgyblydd, diwygiwr, athraw. y rhai ffol, yn ddysgawdwr y rhai bychain, a chennyt yn y ddeddf fraslun#2:20 Amlinelliad, ffurf, ymgorphoriad. o wybodaeth a gwirionedd; 21tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladratter#2:21 Llyth., peidio a lladratta, peidio a godinebu., a ladretti di? 22yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber#2:22 Llyth., peidio a lladratta, peidio a godinebu., a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio yr eilunod, a gyssegr‐yspeili di#2:22 Amddiffynnodd ysgrifennydd Ephesus Paul a'i gymdeithion rhag bod yn gyssegr‐yspeilwyr (Act 19:37). Felly y mae yn debygol fod Iuddewon, ar brydiau, yn euog o hyn.? 23yr hwn wyt yn ymffrostio mewn deddf, trwy droseddiad y ddeddf yr wyt yn dianrhydeddu Duw#2:23 Cymmerir yr adnod yn fynych fel gofyniad; ond y mae y cyfnewidiad yn ffurf yr ymadrodd yn awgrymmu mai haeriad yw.. 24Canys enw Duw, o'ch plegid chwi, a geblir ym mhlith y Cenhedloedd, megys y mae yn ysgrifenedig#2:24 Cymhwysiad rhydd o Esaiah 52:5. Yno ceir, “A phob dydd yn wastad y ceblir fy enw.”. 25Canys enwaediad#2:25 Neu, amdoriad. yn wir sydd yn lleshâu, os gwnei y ddeddf; eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, y mae dy enwaediad wedi myned yn ddienwaediad. 26Os y dienwaediad gan hynny a geidw ordeiniadau#2:26 Dikaiôma, gosodedigaeth deddf, appwyntiad cyfraith, ordeiniad, yr hyn a ofynnir. y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? 27A'r dienwaediad, yr hwn sydd o naturiaeth#2:27 Y Cenedl‐ddyn, yr hwn sydd ddienwaededig yn rhinwedd ei enedigaeth., gan gyflawnu#2:27 Hynny yw, ‘Os cyflawna y ddeddf.’ y ddeddf, a'th farna di, yr hwn, gyda'th Lythyren#2:27 Nid yn gymmaint y gorchymyn i enwaedu, ond saif y gair ‘Llythyren’ am y Gyfraith Seremoniol yn ei chyfanrwydd. a'th Enwaediad, wyt droseddwr deddf#2:27 Gwell peidio ystyried yr adnod fel gofyniad.. 28Canys nid yr hwn sydd oddi allan#2:28 Llyth., yn yr amlwg. sydd Iuddew, ac nid yr hyn sydd oddi allan#2:28 Llyth., yn yr amlwg. yn y cnawd sydd enwaediad. 29Eithr yr hwn sydd oddi mewn sydd Iuddew, ac enwaediad yw eiddo y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren, clod#2:29 Y mae yma ymchwareu ar ystyr geiriau. Ystyr Judah, o'r hwn y daw y gair Iuddew, yw clod. yr hwn nid yw o ddynion, ond o Dduw.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 2: CTE
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.