Rhufeiniaid 9
9
A.D. 60. —
1 Paul yn ddrwg ganddo dros yr Iddewon. 7 Nad oedd holl had Abraham yn blant yr addewid. 18 Bod Duw yn trugarhau wrth y neb y mynno. 21 Y gall y crochenydd wneuthur â’i bridd y peth a fynno. 25 Darfod rhagfynegi galwedigaeth y Cenhedloedd, a gwrthodiad yr Iddewon. 32 Yr achos paham y croesawodd cyn lleied o’r Iddewon gyfiawnder ffydd.
1 #
2 Cor 1:23; 11:31 Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a’m cydwybod hefyd yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân, 2#Pen 10:1Fod i mi dristyd mawr, a gofid di‐baid i’m calon. 3Canys #Exod 32:32mi a ddymunwn fy mod fy hun #9:3 wedi fy ngwahanu.yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd: 4#Deut 7:6Y rhai sydd Israeliaid; #Exod 4:22; Jer 31:9eiddo y rhai yw’r mabwysiad, #1 Sam 4:21a’r gogoniant, a’r #9:4 testamentau.cyfamodau, a #Salm 147:19dodiad y ddeddf, a’r gwasanaeth, #Pen 3:2; Eff 2:12a’r addewidion; 5Eiddo y rhai yw’r tadau; ac #Pen 1:3o’r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd, #Jer 23:6; Ioan 1:1; Act 20:28; Heb 1:8yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen. 6#Pen 3:3Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi‐rym: canys #Pen 2:28, 29; 4:12, 16; Gal 6:16nid #9:6 yw y rhai hyn oll Israel a’r a ydynt o Israel.Israel yw pawb a’r sydd o Israel. 7#Gal 4:23Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, #Gen 21:12; Heb 11:18Yn Isaac y gelwir i ti had. 8Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr #Gal 4:28plant yr addewid a gyfrifir yn had. 9Canys gair yr addewid yw hwn; #Gen 18:10Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara. 10Ac nid hyn yn unig; eithr #Gen 25:21Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o’n tad Isaac; 11(Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i’r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr #Pen 4:17o’r hwn sydd yn galw;) 12Y dywedwyd wrthi, #9:12 Y mwyaf.#Gen 25:23Yr hynaf a wasanaetha’r #9:12 lleiaf.ieuangaf. 13Megis yr ysgrifennwyd, #Mal 1:2, 3Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais. 14Beth gan hynny a ddywedwn ni? #Job 34:10 A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato Duw. 15Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, #Exod 33:19Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf. 16Felly gan hynny nid o’r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o’r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau. 17Canys #Edrych Gal 3:8, 22y mae’r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, #Exod 9:16I hyn yma y’th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy’r holl ddaear. 18Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a’r neb y mynno y mae efe yn ei galedu. 19Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef? 20Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? #Esa 45:9; 64:8a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a’i ffurfiodd, Paham y’m gwnaethost fel hyn? 21Onid oes awdurdod #Jer 18:6i’r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o’r un telpyn pridd #2 Tim 2:20un llestr i barch, ac arall i amarch? 22Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, #1 Pedr 2:8; Jwdas 4wedi eu #9:22 Neu, gorffen.cymhwyso i golledigaeth: 23Ac #Pen 2:4; Col 1:27i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant, 24Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o’r Iddewon yn unig, eithr hefyd o’r Cenhedloedd? 25Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, #Hos 2:23; 1 Pedr 2:10Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi; a’r hon nid yw annwyl, yn annwyl. 26A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl i ydych chwi; yno y gelwir hwy yn feibion i’r Duw byw. 27Hefyd y mae Eseias yn llefain am yr Israel, #Esa 10:22, 23Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, #Pen 11:5gweddill a achubir. 28Canys efe a orffen ac a gwtoga’r #9:28 Neu, cyfrif.gwaith mewn cyfiawnder: oblegid byr #9:28 gyfrif.waith a wna’r Arglwydd ar y ddaear. 29Ac megis y dywedodd Eseias yn y blaen, #Esa 1:9; Galar 3:22Oni buasai i Arglwydd y Sabaoth adael i ni had, #Esa 13:19; Jer 50:40megis Sodoma y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra. 30Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd: 31Ac Israel, #Pen 10:2; 11:7yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder. 32Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y ddeddf: canys #Luc 2:34; 1 Cor 1:23hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd; 33Megis y mae yn ysgrifenedig, #Esa 8:14; 28:16; Mat 21:42; 1 Pedr 2:6, 7, 8Wele fi yn gosod yn Seion faen tramgwydd, a chraig rhwystr: a #Pen 10:11phob un a gredo ynddo ni #9:33 waradwyddir.chywilyddir.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 9: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Cymharu
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society