Rhufeiniaid 8
8
A.D. 60. —
1 Bod y rhai sydd yng Nghrist, ac yn byw yn ôl yr Ysbryd, yn rhyddion oddi wrth ddamnedigaeth. 5, 13 Pa niwed sydd yn digwydd oddi wrth y cnawd; 6, 14 a pha les oddi wrth yr Ysbryd, 17 ac o fod yn blentyn i Dduw: 19 yr hwn y mae pob peth yn hiraethu am ei ogoneddus ymwared: 29 yr hwn a ragordeiniwyd gan Dduw. 38 Na all dim ein gwahanu ni oddi wrth ei gariad ef.
1Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd #Gal 5:16, 25yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. 2Canys #Ioan 8:36; Pen 6:18, 22; Gal 2:19; 5:1deddf #1 Cor 15:45; 2 Cor 3:6Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth. 3Canys #8:3 yr hyn oedd amhosibl i’r ddeddf, yn yr hyn yr oedd hi yn wan.yr hyn ni allai’r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, #8:3 a thrwy offrwm am.ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd: 4Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. 5Canys #1 Cor 2:14y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau’r cnawd y maent yn synio: eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau’r Ysbryd. 6Canys #Pen 6:21; Gal 6:8syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw: 7Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; #1 Cor 2:14oblegid nis gall chwaith. 8A’r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw. 9Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw #1 Cor 3:16Ysbryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb #Ioan 3:34; Gal 4:6; Phil 1:19; 1 Pedr 1:11Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. 10Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw, oherwydd pechod; eithr yr Ysbryd yn fywyd, oherwydd cyfiawnder. 11Ac os Ysbryd #Act 2:24yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; #Pen 6:4, 5; 1 Cor 6:14; 2 Cor 4:14; Eff 2:5yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, #8:11 oblegid.trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch. 12Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd. 13Canys #Gal 6:8os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych #Eff 4:22; Col 3:5yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy’r Ysbryd, byw fyddwch. 14Canys #Gal 5:18y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw. 15Canys #1 Cor 2:12; 2 Tim 1:7ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch #Esa 56:5; Gal 4:5, 6Ysbryd mabwysiad, trwy’r hwn yr ydym yn llefain, #Marc 14:36Abba, Dad. 16Y mae’r #2 Cor 1:22; 5:5; Eff 1:13; 4:30Ysbryd #8:16 ei hun.hwn yn cyd‐dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw: 17Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd‐etifeddion â Christ: #Act 14:22; 2 Tim 2:11, 12os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd. 18Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, #2 Cor 4:17; 1 Pedr 1:6, 7; 4:13nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni. 19Canys #2 Pedr 3:13awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am #1 Ioan 3:2ddatguddiad meibion Duw. 20Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o’i fodd, eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd: 21Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw. 22Canys ni a wyddom fod #8:22 yr holl greadigaeth.pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. 23Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: #2 Cor 5:2, 4yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef #Luc 21:28; Eff 4:30prynedigaeth ein corff. 24Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr #2 Cor 5:7; Heb 11:1y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? 25Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano. 26A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys #Mat 20:22; Iago 4:3ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr #Sech 12:10; Eff 6:18y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. 27#1 Cron 28:9; Salm 7:9; Jer 11:20; 17:10; Act 1:24; Dat 2:23A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; #8:27 ei fod efe.canys y mae efe #1 Ioan 5:14yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. 28Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. 29Oblegid y rhai #Exod 33:12, 17; Salm 1:6; Jer 1:5; Mat 7:23; Pen 11:2; 2 Tim 2:19; 1 Pedr 1:2a ragwybu, #Eff 1:5, 11a ragluniodd efe hefyd #Ioan 17:12; 2 Cor 3:18; Phil 3:21; 1 Ioan 3:2 i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; #Col 1:15, 18; Heb 1:6; Dat 1:5fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer. 30A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd #Eff 2:6a ogoneddodd efe. 31Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? #Num 14:9Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn? 32#Pen 5:6, 10Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond #Pen 4:25a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth; 33Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? #Esa 50:8, 9; Dat 12:10, 11Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau: 34#Job 34:29Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; #Marc 16:19; Col 3:1; Heb 1:3; 8:1; 12:2yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, #Heb 7:25; 9:24yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. 35Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? 36Megis y mae yn ysgrifenedig, #Salm 44:22; 2 Cor 4:11Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. 37#1 Cor 15:57; 2 Cor 2:14; 1 Ioan 4:4; 5:4, 5; Dat 12:11Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. 38Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na #Eff 1:21; 6:12; Col 1:16; 2:15; 1 Pedr 3:22thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, 39Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 8: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Cymharu
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society