Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 15

15
A.D. 60. —
1 Rhaid i’r cryf gyd‐ddwyn â’r gwan. 2 Na ddylem ni ryngu ein bodd ein hunain, 3 gan na wnaeth Crist hynny; 7 ond derbyn bob un ein gilydd megis y derbyniodd Crist ninnau i gyd, 8 Iddewon, 9 a Chenhedloedd. 15 Paul yn esgusodi ei ysgrifen, 28 ac yn addo ymweled â hwynt, 30 ac yn deisyf eu gweddïau.
1 # Gal 6:1 Anyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. 2#1 Cor 9:19, 22; 10:24, 33; 13:5; Phil 2:4, 5Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth. 3Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, #Salm 69:9Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi. 4Canys #Pen 4:23; 1 Cor 10:11pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith. 5#Pen 12:16; 1 Cor 1:10; Phil 3:16A Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd #15:5 Neu, yn ôl esiampl Crist Iesu.yn ôl Crist Iesu: 6Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. 7Oherwydd paham #Pen 14:1, 3derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw. 8Ac yr wyf yn dywedyd, #Mat 15:24; Act 3:25, 26wneuthur Iesu Grist yn weinidog i’r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau’r addewidion a wnaethpwyd i’r tadau: 9Ac fel y byddai i’r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn ysgrifenedig, #Salm 18:49Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. 10A thrachefn y mae yn dywedyd, #Deut 32:43Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda’i bobl ef. 11A thrachefn, #Salm 117:1Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodforwch ef, yr holl bobloedd. 12A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, #Esa 11:1, 10Fe fydd gwreiddyn Jesse, a’r hwn a gyfyd i lywodraethu’r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia’r Cenhedloedd. 13A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân. 14Ac #2 Pedr 1:12; 1 Ioan 2:21yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd. 15Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un yn dwyn ar gof i chwi, #Pen 1:5; 12:3; Gal 1:15; Eff 3:7, 8trwy’r gras a roddwyd i mi gan Dduw; 16Fel #Pen 11:13; Gal 2:7, 8, 9; 1 Tim 2:7; 2 Tim 1:11y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i efengyl Duw, fel y byddai #Esa 66:20; Phil 2:17offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân. 17Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu, o ran y pethau a berthyn i Dduw. 18Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, #Pen 1:5; 16:26i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred, 19Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist. 20Ac felly gan ymorchestu i bregethu’r efengyl, nid lle yr enwid Crist: #2 Cor 10:13, 15, 16fel nad adeiladwn ar sail un arall: 21Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, #Esa 52:15I’r rhai ni fynegwyd amdano, hwynt‐hwy a’i gwelant ef; a’r rhai ni chlywsant, a ddeallant. 22Am hynny hefyd #Pen 1:13; 1 Thess 2:17, 18y’m lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi. 23Eithr yr awr hon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd hyn, a hefyd #Act 19:21; Ad. 32; Pen 1:11bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi; 24Pan elwyf i’r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a’m hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi #15:24 Neu, o’ch cymdeithas; Gr. â chwi, ad. 32ohonoch. 25Ac yr awr hon #Act 19:21; 24:17yr wyf fi yn myned i Jerwsalem, i weini i’r saint. 26Canys #1 Cor 16:1, 2; 2 Cor 9:2, 12rhyngodd bodd i’r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur rhyw gymorth i’r rhai tlodion o’r saint sydd yn Jerwsalem. 27Canys rhyngodd bodd iddynt; a’u dyledwyr hwy ydynt. Oblegid #Pen 11:17os cafodd y Cenhedloedd gyfran o’u pethau ysbrydol hwynt, #1 Cor 9:11; Gal 6:6hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol. 28Wedi i mi gan hynny orffen hyn, a selio iddynt #Phil 4:17y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf #15:28 heibio i chwi.heboch i’r Hispaen. 29#Pen 1:11Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist. 30Eithr yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac #Phil 2:1er cariad yr Ysbryd, #2 Cor 1:11; Col 4:12ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn gweddïau drosof fi at Dduw; 31#2 Thess 3:2Fel y’m gwareder oddi wrth y rhai #15:31 heb gredu.anufudd yn Jwdea: ac ar fod fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennyf i Jerwsalem, yn gymeradwy gan y saint; 32#Pen 1:10Fel y delwyf atoch mewn llawenydd, #Act 18:21; 1 Cor 4:19; Iago 4:15trwy ewyllys Duw, ac y’m cydlonner gyda chwi. 33A #Pen 16:20; 1 Cor 14:33; 2 Cor 13:11; Phil 4:9; 1 Thess 5:23; 2 Thess 3:16; Heb 13:20Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 15: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Cymharu

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda