Rhufeiniaid 14
14
A.D. 60. —
3 Na ddylai dynion na dirmygu na chondemnio eu gilydd, am bethau nid ydynt na da na drwg ohonynt eu hunain; 13 eithr osgoi rhoddi achos tramgwydd ynddynt: 15 oblegid hynny y mae yr apostol yn ei brofi ei fod yn anghyfreithlon, trwy lawer o resymau.
1Yr hwn sydd #1 Cor 8:9; 9:22wan yn y ffydd, derbyniwch atoch, #14:1 nid i farnu ei feddyliau anhysbys.nid i ymrafaelion rhesymau. 2Canys y mae un yn credu y gall fwyta pob peth; ac y mae arall, yr hwn sydd wan, yn bwyta dail. 3#Col 2:16Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta; a’r hwn nid yw yn bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a’i derbyniodd ef. 4#Iago 4:12Pwy wyt ti, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll, neu yn syrthio: ac efe a gynhelir; canys fe a all Duw ei gynnal ef. 5#Gal 4:10Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod; ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch. Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun. 6Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a’r hwn sydd heb ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae heb ei ystyried. Yr hwn sydd yn bwyta; i’r Arglwydd y mae yn bwyta; canys #1 Cor 10:31; 1 Tim 4:3y mae yn diolch i Dduw: a’r hwn sydd heb fwyta, i’r Arglwydd y mae heb fwyta; ac y mae yn diolch i Dduw. 7Canys #1 Cor 6:19, 20; Gal 2:20; 1 Thess 5:10; 1 Pedr 4:2nid oes yr un ohonom yn byw iddo’i hun, ac nid yw’r un yn marw iddo’i hun. 8Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. 9Oblegid #2 Cor 5:15er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a’r byw hefyd. 10Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu paham yr wyt yn dirmygu dy frawd? canys #2 Cor 5:10gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist. 11Canys y mae yn ysgrifenedig, #Esa 45:23; Phil 2:10Byw wyf fi, medd yr Arglwydd; pob glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffesa i Dduw. 12Felly gan hynny #Mat 12:36; Gal 6:5pob un ohonom #14:12 amdano ei hun.drosto’i hun a rydd gyfrif i Dduw. 13Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach: ond bernwch hyn yn hytrach, #1 Cor 10:32na bo i neb roddi tramgwydd i’w frawd, neu rwystr. 14Mi a wn, ac y mae yn sicr gennyf trwy’r Arglwydd Iesu, #Act 10:15; 1 Cor 10:25; 1 Tim 4:4; Titus 1:15nad oes dim yn #14:14 Gr. gyffredin.aflan ohono’i hun: ond #1 Cor 8:7, 10i’r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan. 15Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. #1 Cor 8:11Na ddistrywia ef â’th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw. 16Na chabler gan hynny eich daioni chwi. 17Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân. 18Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion. 19Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a’r pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd. 20O achos bwyd na ddinistria waith Duw. #Mat 15:11; Act 10:15; Ad. 14; Titus 1:15Pob peth yn wir sydd lân; eithr drwg yw i’r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd. 21Da yw na fwytaer #1 Cor 8:13cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy’r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd. 22A oes ffydd gennyt ti? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda. 23Eithr yr hwn sydd yn #14:23 canfod, ac yn gwneuthur rhagoriaeth rhwng bwydydd.petruso, os bwyty, efe a gondemniwyd, am nad yw yn bwyta o ffydd: a #Titus 1:15pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 14: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Cymharu
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society